Teyrngedau i'r awdur Jilly Cooper sydd wedi marw yn 88 oed 

Jilly Cooper

Mae’r awdur, y Fonesig Jilly Cooper, wedi marw yn 88 oed ar ôl iddi gwympo.

Yn ôl ei phlant, Felix ac Emily, roedd ei marwolaeth fore Sul yn "sioc llwyr".

Dywedodd datganiad ar eu rhan: " Rydym mor falch o bopeth a gyflawnodd yn ei bywyd ac ni allwn ddechrau dychmygu bywyd heb ei gwên a’i chwerthin heintus o’n cwmpas.”

“Mam oedd y goleuni disglair yn ein bywydau ni i gyd. Nid oedd terfyn ar ei chariad at ei holl deulu a ffrindiau.”

Roedd y Fonesig Jilly Cooper yn fwyaf adnabyddus am ei nofelau rhamant, The Rutshire Chronicles.

Dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu ym 1956 fel gohebydd i bapur newydd y Middlesex Independent, gan adrodd ar bopeth o bartïon i bêl-droed.

Aeth ymlaen i ysgrifennu straeon ar gyfer cylchgronau menywod ym 1968, a daeth i enwogrwydd yn 1969 pan gyhoeddodd The Sunday Times stori ganddi am wraig tŷ "heb ei dofi". 

Arweiniodd hynny at golofn a barhaodd am dros 13 mlynedd.

Cafodd y Fonesig Jilly Cooper lwyddiant masnachol yn yr 1980au, a gwerthodd 11 miliwn o gopïau o'i llyfrau yn ystod ei gyrfa a barhaodd mwy na hanner can mlynedd.

Cafodd un o'i llyfrau, Rivals, ei addasu ar gyfer y teledu yn ddiweddar gan Disney+. Jilly Cooper oedd un o gynhyrchwyr gweithredol y gyfres. 

"Ffrind ffraeth"

Roedd y Fonesig Jilly Cooper yn ffrind i'r Frenhines Camilla.

Mewn neges o Balas Buckingham, dywedodd: “Roeddwn i mor drist o glywed am farwolaeth y Fonesig Jilly neithiwr.”

"Yn bersonol, roedd hi’n ffrind hynod o ffraeth a thosturiol i mi a chynifer o bobl eraill, ac roedd yn bleser arbennig ei gweld hi ychydig wythnosau yn ôl yn fy Ngŵyl Ystafell Ddarllen y Frenhines lle’r oedd hi, fel bob amser, yn seren y sioe.

"Rwy’n ymuno â’m gŵr y Brenin i anfon ein meddyliau a’n cydymdeimlad at ei holl deulu."

Dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer : "Roedd y Fonesig Jilly Cooper yn rym llenyddol y lluniodd ei ffraethineb, ei chynhesrwydd a'i doethineb ddiwylliant Prydain am dros hanner canrif, a dod â llawenydd i filiynau."

Roedd y Fonesig Jilly Cooper yn adnabyddus am ysgrifennu ffuglen yn canolbwyntio ar sgandal a godineb yng nghymdeithas y dosbarth uwch.

Ymhlith ei nofelau llwyddiannus, mae Riders, Rivals, Polo, Mount! a The Man Who Made Husbands Jealous, ynghyd â'i gwaith diweddaraf Tackle!

Yn 2019 enillodd wobr cyflawniad oes Comedy Women in Print, ac yn 2024 cafodd ei hanrhydeddu yn Fonesig am ei gwasanaethau i lenyddiaeth ac elusen.

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.