
'Mwy na' gweithle': Galw am ailystyried cynlluniau i gau menter sy'n cyflogi pobl ag anableddau
Mae aelod o fenter sy'n cyflogi pobl ag anableddau yn galw ar Gyngor Sir Ddinbych i ailystyried cynlluniau i'w chau.
Mae Michelle Davies, 59, o Abergele, wedi bod yn gweithio i Cefndy Healthcare yn y Rhyl am dros 30 mlynedd.
Ond fis diwethaf cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych gynlluniau i gau'r fenter sy'n cyflogi 29 aelod o staff, gan gynnwys 22 ag anableddau.
Ers hynny mae aelodau o'r gymuned a sawl cynghorydd lleol wedi gwrthwynebu'r cynlluniau ac yn galw ar y cyngor i frwydro dros y cwmni.
"Mae'n drist achos mae nifer o bobl yn dioddef ac mae'r cwmni wedi gwneud llawer o dda yn y gymuned," meddai Ms Davies.
"Dw i'n meddwl bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn dod yma i weithio achos maen nhw'n gwybod y gallant gael cymorth yma hefyd.
"Dydi rhai ohonyn nhw ddim yn gweld pobl o wythnos i wythnos, felly mae'n fwy na gweithle – mae'n rhwydwaith cymorth."
Roedd y cyngor wedi bwriadu gwneud penderfyniad yn eu cyfarfod cabinet ar 23 Medi, ond cafodd ei ohirio tan 21 Hydref.
Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych nad ydyn nhw wedi gwneud penderfyniad eto am ddyfodol Cefndy Healthcare.
Mae trafodaethau’n parhau, meddai'r cyngor, wrth iddyn nhw wynebu "pwysau ariannol sylweddol".
'Annheg'
Mae Cefndy Healthcare yn dweud eu bod yn cynnig cyflogaeth "ystyrlon gyda thâl da" i bobl ag anableddau.
Cafodd ei sefydlu bron i 50 mlynedd nôl fel cartref i bobl ag anableddau, cyn datblygu i weithgynhyrchu nwyddau.
Erbyn hyn mae'r fenter, sy'n cael cefnogaeth ariannol gan y cyngor sir, yn cynhyrchu ystod eang o gymhorthion byw.
Yn ôl ei adroddiad blynyddol diweddaraf roedd gan Cefndy Healthcare £86,000 dros ben ar ddiwedd 2023/24, ond yn y flwyddyn ddiwethaf maen nhw wedi wynebu heriau ariannol ar ôl i un o'u cleientiaid mwyaf fynd i'r wal.
Dywedodd Ms Davies, sy'n gweithio mewn rôl weinyddol, y byddai'n benderfyniad "annheg" i gau'r fenter yn syth.
"Rydyn ni wedi cael blwyddyn wael eleni, ond yn y blynyddoedd cyn hynny rydyn ni wedi bod yn iawn," meddai.
"Felly dw i'n meddwl eu bod nhw [y cyngor] wedi neidio arno ychydig yn gyflym – mae angen i ni roi mwy o gyfle iddo."

Roedd Ms Davies yn un o'r saith o aelodau heb anabledd nes iddi gael diagnosis o gyflwr niwrolegol yn ddiweddar.
Mae hi bellach wedi ei chofrestru'n anabl ac yn dweud y byddai cau'r cwmni yn cael effaith fawr ar ei lles hi a'i chydweithwyr.
"Alla i ddim gweld rhai o'r bobl sydd wedi dod drwy'r drysau dros y 30 mlynedd diwethaf yn ymdopi â'r byd tu allan," meddai.
"Mae gennym ni bobl ag anawsterau dysgu, pobl sy'n fyddar neu heb leferydd, problemau iechyd hirdymor.
"Ac mae Cefndy wedi cael ei sefydlu i gefnogi pobl gydag anableddau."
A hithau'n fam i ferch ag anabledd, mae Ms Davies yn dweud ei bod hi'n poeni am y diffyg swyddi.
"Does gan nifer o bobl sy'n gweithio yng Nghefndy ddim cymwysterau academaidd," meddai.
"Does ganddyn nhw ddim TGAU, NVQ na Lefel A – does ganddyn nhw ddim byd fel 'na."
Galw am gyngor arbenigol
Un sydd yn cefnogi'r staff ac yn galw ar y cyngor i ailystyried y penderfyniad ydi Brian Jones, cynghorydd sir yn y Rhyl.
"Rwy'n dod o gefndir yn y sector preifat, ro'n i’n rheolwr gyfarwyddwr cwmni llwyddiannus sy’n dal i redeg heddiw," meddai.
"Felly, rwy’n deall yr hyn sydd angen ei wneud mewn marchnad i addasu i heriau, ac rwy’n teimlo eu bod nhw [y cyngor] wedi mynd am y ffordd hawsaf allan."

Dywedodd y Cynghorydd Jones bod angen i Gyngor Sir Ddinbych gael cyngor arbenigol er mwyn cefnogi'r fenter.
"Byddan nhw'n mynd yn flin am hynny, oherwydd byddan nhw’n honni bod ganddyn nhw’r arbenigedd eisoes," meddai.
"Ond dydw i ddim wir yn credu bod ganddyn nhw’r arbenigedd, a dyna’r cyfan sydd angen iddyn nhw ei wneud."
Ychwanegodd: "Rwy’n mawr obeithio y bydd y cyngor yn edrych ar eu hopsiynau ac yn dod o hyd i opsiwn synhwyrol a fydd yn sicrhau dyfodol busnes 50 oed sydd wedi cyfrannu’n aruthrol at y gymuned yn y Rhyl ac yn Sir Ddinbych gyfan."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Mae'r cyngor yn cydnabod bod hon yn sefyllfa anodd i bawb ar hyn o bryd.
"O ystyried y pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r cyngor, rhaid i bob gwasanaeth ystyried opsiynau i sicrhau y gallant barhau i ddarparu gwasanaethau. Er mwyn gwneud hyn, rhaid ystyried ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau.
"Mae'n bwysig pwysleisio nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynghylch dyfodol Cefndy Healthcare a bod trafodaethau gyda staff sy'n gweithio yn y cyfleuster a rhanddeiliaid allweddol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd."
Ychwanegodd: "Fel cyfleuster gweithgynhyrchu, mae'r farchnad fyd-eang y mae Cefndy Healthcare yn gweithredu ynddi wedi bod yn heriol yn economaidd, gyda digwyddiadau byd-eang diweddar, gan gynnwys cost dur a thariffau masnach yn gwaethygu'r sefyllfa, ac mae hyn oll y tu hwnt i reolaeth y cyngor.
"Mae'r Cyngor wedi monitro sefyllfa Cefndy Healthcare yn gyson, gan gynnwys cynnal nifer o adolygiadau ffurfiol yn ystyried yr opsiynau posibl ynghylch dyfodol y cyfleuster.
"Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda staff ac aelodau i ganiatáu iddynt fwydo mewn i'r Adolygiad Dichonoldeb sy'n cael ei gynnal, cyn i adroddiad fynd i'r cabinet am benderfyniad ar ddyfodol Cefndy Healthcare."