
'Mae fel llythyr cariad i RCT': 30 o baentiadau mewn 30 diwrnod
'Mae fel llythyr cariad i RCT': 30 o baentiadau mewn 30 diwrnod
'Ers dechrau hyn, y rheswm newydd i 'neud y brosiect, yw’r bobl.'
Mae artist ifanc o Lantrisant yn Rhondda Cynon Taf wedi dechrau ar gynllun celfyddydol '30 Days, 30 Paintings in Rhondda Cynon Taf.'
Wyth diwrnod ers dechrau'r cywaith, ac mae Rachel Baber, sy'n 23 oed wedi teithio i sawl ardal o amgylch RCT. Mae wedi bod yn paentio llefydd ac adeiladau eiconig, gan gynnwys y Prince's Cafe ym Mhontypridd a Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda.

"Mae'r holl waith yma fel un llythr cariad mawr i Rhondda Cynon Taf a’r bobl sy’n byw yn y Rhondda," meddai Rachel.
Ar ôl graddio o'r Brifysgol ym Mryste (UWE), roedd Rachel yn edrych am her newydd. Wrth deithio trwy ei hardal leol, ger Pontyclun, fe gafodd hi'r syniad i baentio Sir Rhondda Cynon Taf yn ei ogoniant i ddathlu'r ardaloedd o'i chwmpas a'r bobl ynddi.
"Oeddwn i jyst yn meddwl mae hyn mor hyfryd, ac oedd yr haul yn machlud. Oeddwn i jyst yn meddwl, oeddwn i eisiau rhoi her i fy hunain i bwshio fy hun."
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Rachel: "Sai’n credu os oeddwn i wedi aros yn Bryste, byddai’n gallu wneud hyn – mae’n llawer mwy brysur yn ddinasoedd, felly mae lot mwy o gystadleuaeth."
Roedd Rachel wedi bwriadu creu lluniau yng Nghaerdydd i ddechrau am fod yna nifer o lefydd y gallai ddarlunio - ond yn y diwedd, dewisodd ei hardal leol.
"Dwi jyst yn caru Rhondda Cynon Taf. A fi mor browd o ddod o RCT.
Mae’n sir hyfryd ac ers dechrau hyn,' bron wyth diwrnod yn ôl, y rheswm newydd i 'neud y brosiect, yw’r bobl," meddai.

Ers dechrau'r cywaith, mae wedi cwrdd â "gymaint o bobl hyfryd" ac yn gwneud iddi fod eisiau gwneud y gwaith.
Mae Rachel yn paentio drwy dechneg 'plain air', sy'n golygu fod artist yn paentio tu fas, yn ymateb i beth sydd o'u blaen ar y pryd.
"Mae’n llawer mwy naturiol, fi'n hoffi fy gwaith mwy pan fi’n neud plain air, mae’n fwy organic.
'Ti gyda jyst lot o amser i ddarlunio – ti’n gallu meddwl llawer hefyd, yn byd lle mae pawb wedi arfer bod yn ysgogi yn gyson.
'A fi’n neud hyn os fi’n paentio yn y stiwdio, fi’n rhoi ffilm arno, ond wedyn pan fi’n paentio fel hyn – fi’n colli fy hun yn y paentio.'

Tu hwnt i'w gwaith ar y cynllun yma, mae gan Rachel stiwdio yn y Model House yn Llantrisant.
"Sai'n credu hebddo nhw, bydda'i yma heddiw yn gweithio. Fi'n rili, rili lwcus."
Mae'n bwysig i Rachel i baentio llefydd y mae hi'n eu hadnabod a llefydd Cymreig. "Fi eisiau i bawb weld y gwlad trwy fy llygaid.'
Bydd yr holl waith yn cael ei arddangos yn y Giles Gallery ym Mhontyclun ar 13 Ionawr tan 31 Ionawr 2026.