Eira: Bron i 50 o ysgolion ar gau yn y de-orllewin

20/11/2025
Cenarth

Mae rhybuddion am amodau gyrru "hynod o wael" yn ne-orllewin Cymru fore Iau a nifer o ysgolion ar gau wedi i eira syrthio dros nos.

Dywedodd Cyngor Sir Benfro bod rhannau o orllewin y sir wedi gweld "eira trwm" a'u bod nhw'n canolbwyntio ar ail-agor y ffyrdd, gyda ffyrdd oedd heb eu trin yn "beryglus".

Mae eira hefyd wedi syrthio yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin a de Sir Ceredigion.

Mae rhybudd melyn am eira mewn grym yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe drwy’r dydd ddydd Iau.

Dywedodd Shon Rees, Cynghorydd Crymych a Mynachlog-ddu wrth Radio Cymru mai "dyma'r mwyaf o eira' ydw i wedi ei weld yng Nghrymych yn yr 20 mlynedd diwetha'".

"Daeth e lawr o tua 03.00 ymlaen yn ofnadw. Ydi mae pobl wir am dduno lan bore 'ma ac edrych mas a meddwl ydi hi'n saff mynd.

"Byddwn i'n argymell i unrhyw un sydd ddim rhaid teithio heddi' i aros gytre'."

Image
Ysgol Bro Preseli
Ysgol Bro Preseli

Mae nifer o ysgolion ar gau.

Yn Sir Benfro:

  • Ysgol Bro Preseli - y cynradd a’r uwchradd - yng Nghrymych
  • Ysgol Uwchradd Greenhill
  • Ysgol Uwchradd Hwlffordd
  • Ysgol Uwchradd Bro Gwaun
  • Ysgol Gymunedol Maenclochog
  • Ysgol Llandudoch
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Eglwyswrw
  • Ysgol Tredeml
  • Ysgol Tafarn-sbeit
  • Ysgol Portfield yn Hwlffordd
  • Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd
  • Ysgol Prendergast yn Hwlffordd
  • Ysgol Cilgerran
  • Ysgol Cosheston
  • Ysgol Gynradd Arberth
  • Ysgol Sant Aidanes
  • Ysgol Bro Ingli
  • Ysgol Gymunedol Brynconin yn Llandissilio
  • Ysgol Harri Tudur
  • Ysgol Sant Oswald
  • Ysgol Sant Teilo
  • Ysgol Stepaside
  • Ysgol Clydau - Tegryn
  • Ysgol Llanychllwydog - Dyffryn Gweun
  • Ysgol Wolfcastle
  • Ysgol Hafan y Môr

Yn Sir Gaerfyrddin:

  • Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf
  • Ysgol Bro Brynach
  • Ysgol Emlyn
  • Ysgol y Ddwylan
  • Ysgol Beca, Efailwen
  • Ysgol Gynradd Pwll ger Llanelli
  • Ysgol Lacharn
  • Ysgol Llanmiloe
  • Ysgol Llys Hywel
  • Ysgol Griffith Jones
  • Ysgol Hafodwenog
  • Ysgol Penboyr

Ceredigion:

  • Ysgol Uwchradd Aberteifi
  • Ysgol Gynradd Aberteifi
  • Ysgol Gynradd Aberporth
  • Ysgol Gynradd Llechryd
  • Ysgol Gynradd Cenarth
  • Ysgol Gynradd T Llew Jones
  • Ysgol Gynradd Penparc

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai’r tywydd gaeafol wneud gyrru yn beryglus, ac roedd disgwyl hyd at 10cm o eira ar dir uchel yn Sir Benfro a gorllewin Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fore Iau fod amodau’r ffyrdd yn “hynod o wael” ar draws Aberteifi yng Ngheredigion oherwydd yr eira.

Roedd y ffyrdd yn Sir Benfro rhwng Tredeml a Thafarn-sbeit ger Arberth, a’r A4075 rhwng Penfro a Nash, ar gau oherwydd yr eira.

Roedd amodau gyrru yn “hynod o wael” rhwng Sanclêr a Hwlffordd, a Tyddewi a Hwlffordd, ar yr A40, medden nhw.

Image
Eira yng Ngheredigion
Eira yn ne Ceredigion

Roedd rhybudd gan Heddlu Gogledd Cymru nos Fercher fod yr A55 rhwng cyffyrdd pedwar a phump yn wyn oherwydd eira.

Yn Swydd Efrog yng ngogledd-ddwyrain Lloegr roedd amodau "storm eira" yn bosib wrth i rybudd ambr ddod i rym ddydd Iau.

Gallai cymaint â 25cm o eira ddisgyn ar dir uchel yng Ngogledd Efrog a'r ardal gyfagos, lle mae'r rhybudd ambr yn parhau mewn grym tan 21.00.

Mae'r rhan helaeth o ogledd yr Alban yn wynebu rhybudd melyn am eira a rhew, sydd wedi bod mewn grym drwy gydol yr wythnos, ac a fydd yn dod i ben am 21.00 ddydd Iau.

Llun gan Julia James.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.