Y cerddor Gary 'Mani' Mounfield wedi marw yn 63 oed
Mae gitarydd bas y band Stone Roses, Gary 'Mani' Mounfield, wedi marw yn 63 oed.
Roedd Mounfield yn un o aelodau gwreiddiol y grŵp, gan chwarae ar ddau albwm y Stone Roses cyn dychwelyd i gael aduniad ar eu taith nhw yn 2012.
Fe ymunodd â band arall, Primal Scream, ym 1996 gan chwarae gyda nhw am 15 mlynedd.
Fe gyhoeddodd brawd y cerddor, Greg, ei farwolaeth mewn neges ar-lein, gan ddweud: "Gyda chalon drom y mae'n rhaid i mi gyhoeddi marwolaeth drist fy mrawd."
Bu farw gwraig Mounfield, Imelda, ym mis Tachwedd 2023, tair blynedd ar ôl iddi dderbyn diagnosis o ganser y coluddyn.
Mae gan y cwpl efeilliaid, a gafodd eu geni yn 2013.
Fe wnaeth cyd-aelod o fand y Stone Roses, Ian Brown, roi teyrnged iddo ar blatfform X, gan ddweud: 'Cwsg mewn hedd, Mani".
Ychwanegodd canwr Oasis Liam Gallagher: "Mewn sioc llwyr ac wedi fy llorio ar ôl clywed am farwolaeth Mani. Fy arwr."
