Dr Eilir Hughes: 'Dim hyder fod gwersi wedi'u dysgu o'r pandemig'
Mae meddyg teulu blaenllaw o'r gogledd wedi dweud nad oes ganddo hyder fod gwersi wedi'u dysgu o'r pandemig, gan godi pryderon am gapasiti mewn unedau gofal dwys ar draws Cymru.
Yn ôl Dr Eilir Hughes, sy'n feddyg teulu yng Ngwynedd, mae'n poeni nad oes adnoddau digonol wedi'w clustnodi mewn ysbytai pe bai pandemig arall yn taro.
Ddydd Iau mi ddaeth ymchwiliad Covid-19 y DU i gasgliad bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "rhy ddibynnol" ar arweiniad Llywodraeth y DU yn ystod cyfnod cynnar y pandemig a bod hynny wedi arwain at ymateb "rhy araf".
Wrth ymateb i gyhoeddiad yr ymchwiliad, dywedodd y Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, bod y llywodraeth wedi "ymrwymo i ddysgu gwersi o'r pandemig".
Mae Dr Eilir Hughes yn feddyg teulu yn Nefyn ac mi weithiodd drwy gyfnod y pandemig.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Dr Hughes mai'r "consyrn oedd y nifer o wlâu neu'r diffyg gwlâu gofal dwys" oedd yng Nghymru.
"Yn wir mae hyn dal i barhau, Cymru sydd â'r nifer lleiaf o welyau gofal dwys ym Mhrydain, a Phrydain sydd dal â'r nifer lleiaf per capita yn Ewrop," meddai.
"Mae hwnna'n isadeiledd basic iawn o sut 'da ni'n darparu ac yn gwneud yn siŵr bod ganddo ni fwy o hyder yn ein gwasanaethau ni i ddygymod â rhywbeth fel hyn eto."
Pan ofynnwyd i Dr Hughes a oedd ganddo hyder y byddai gwersi wedi neu yn cael eu dysgu, dywedodd "ar hyn o bryd nagoes".
"Y consyrn sydd genddai ydi bod pethau ar lefel uwch wedi'u gwneud o ran sut mae asiantaethau yn siarad efo'i gilydd ond adnoddau ydi'r peth mawr," meddai.
Un arall sy'n poeni am yr ymateb yn dilyn yr ymchwiliad hwn ydi Esmor Davies o Fwcle a gollodd ei ferch, Christine, i Covid-19 nôl ym mis Tachwedd 2021.
Roedd Christine Davies yn 53 ac yn byw â llid y cymalau, neu rheumatoid arthritis, ac felly'n fregus.
"Oedd hi'n gwybod bod hi mewn lle peryg ond dim mor brawychus a byw am bedwar diwrnod," meddai Esmor Davies, ei thad.
"Oddi'n mynd mewn ar y dydd Sul [i'r ysbyty] ac erbyn dydd Mercher oedd hi wedi'n gadael ni.
"Oedda nhw di methu a gwneud dim byd iddi ac oedd hynny’n frawychus... ei rhoi hi mewn coma... a 'da ni byth 'di gweld hi ers hynny."
Ag yntau wedi dilyn yr ymchwiliad, dweud mae Esmor Davies, 80 oed, y dylai mwy o rybudd wedi ei roi i gleifion bregus am beryg y feirws ar ddechrau'r pandemig.
"Da ni’n teimlo i'r galon, ‘sa nhw 'di gallu neud lot chwaneg mewn text neu messages, llythyr coch ella i helpu Christine i ddeall... ‘sa hi wedi cymryd hwnna yn bwysig dros ben a ei chalon a dyna'r person oedd hi," meddai.
Wrth ddisgrifio'r boen o golli Christine mae Esmor yn dweud bod y teulu cyfan wedi "colli ffrind".
"Merch ond ffrind gorau, oedd Christine a fi yn agos i'n gilydd ac oedd hi'n trafod bob peth," meddai.
"Diwedd fy stori i ydi y golled fawr i ni fel teulu ac nai fyth rhoi fyny i baffio dros y Covid ma fel dio'm yn digwydd i neb arall."
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am ymateb i’r pryderon penodol a gafodd eu crybwyll uchod.
Mewn datganiad, dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru ei bod yn croesawu’r adroddiad diweddaraf sy’n rhan o’r Ymchwiliad Covid.
"Hoffwn ddiolch i gadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Hallett, a'i thîm am eu gwaith ac am yr adroddiad heddiw," meddai.
"Mae'n bwysig ein bod ni’n cofio bod nifer fawr o bobl wedi dioddef colled a dioddefaint enfawr yn sgil Covid-19. Heddiw, rhaid i'n meddyliau ni fod gyda nhw uwchlaw popeth arall.
"Byddwn yn treulio amser yn darllen yr adroddiad a byddwn yn gweithio gyda llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf i ystyried yr argymhellion a gweithredu arnynt.
"Rydym wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o'r pandemig ac yn parhau i gymryd rhan weithredol yn ymchwiliad y DU."