Roedd Llywodraeth Cymru yn “rhy araf” ac “yn rhy hwyr” wrth ymateb i bandemig Covid-19 ac yn “or-ddibynnol” ar arweiniad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod dyddiau cynnar y pandemig.
Dyna ganfyddiadau ail adroddiad Ymchwiliad Covid-19, sy’n nodi bod ymateb pob un o’r pedair llywodraeth ar draws y DU yn “annigonol” gan wneud y clo mawr cyntaf yn “anochel”.
Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu fod ymateb Llywodraeth Cymru yn araf i ail don Covid-19 yn ystod Hydref 2020, a arweiniodd at y gyfradd marwolaethau uchaf o unrhyw wlad yn y DU.
Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod bod Cabinet Llywodraeth Cymru dan arweiniad Mark Drakeford yn “effeithiol” wrth wneud penderfyniadau.
Wrth ymateb i'r adroddiad ddydd Iau, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU dros y misoedd nesaf i ystyried argymhellion yr adroddiad.
Dyma’r ail adroddiad sy’n ystyried penderfyniadau gafodd eu gwneud gan lywodraethau Cymru, Y Deyrnas Unedig, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yng Nghymru fe gafodd 31 o bobl eu holi dros gyfnod o dair wythnos dan gadeiryddiaeth Y Farwnes Heather Hallett DBE.
Roedd rhain yn cynnwys pobl a gollodd anwyliaid, arbenigwyr iechyd, gweision sifil a gwleidyddion.
Bu farw mwy na 12,000 o bobl yng Nghymru o ganlyniad i Covid-19 rhwng 2020 ac Awst 2024. Does dim ymchwiliad penodol i Gymru.
Yn nyddiau cynnar y pandemig roedd Llywodraeth Cymru yn edrych tua Llundain am arweiniad ond fe ddylai'r drefn honno fod wedi newid wrth i’r pandemig ddatblygu medd yr adroddiad.
Noda’r adroddiad: “Roedd y ddau, Mr Drakeford a [yr ysgrifennydd iechyd ar y pryd Vaughan Gething], yn dibynnu’n sylweddol ar Lywodraeth y DU a’r asesiadau risg ar draws y DU, heb ystyried yn ddigonol yr amgylchiadau penodol yng Nghymru.”
Mae’r adroddiad yn nodi y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi ”cydnabod difrifoldeb y sefyllfa yn Ionawr a Chwefror 2020 ac wedi cymryd ei chamau ei hun i baratoi ar gyfer cyrraedd Covid-19 yng Nghymru.”
Yn ôl y canfyddiadau, roedd “ddiffyg ymddiriedaeth” rhwng Prif Weinidog y DU ac arweinwyr y llywodraethau datganoledig.
Serch hyn, er i’r llywodraethau datganoledig fynychu cyfarfodydd COBRA, roedden nhw dan yr argraff bod penderfyniadau “wedi’u gwneud yn effeithiol o flaen llaw” gan Lywodraeth y DU.
Cyfathrebu negesuon
Mae’r adroddiad yn argymell sefydlu strwythurau cyfathrebu newydd i wella cydweithio rhwng y pedair cenedl yn ystod argyfwng.
Yn ogystal, mae’n nodi yr angen am ddiwygio a “sefydlu mecanweithiau” o wneud penderfyniadau yn gliriach o fewn pob un o’r pedair llywodraeth.
Er bod yr adroddiad yn cydnabod y pwysau enfawr ar wleidyddion ac ar eraill yn ystod y pandemig, mae hefyd yn rhoi cydnabyddiaeth i Lywodraeth Cymru am ei hymdrechion i gydweithio.
Fe ddywedodd yr adroddiad fod Llywodraeth Cymru wedi methu trafod ar “lefel cabinet” yn ddigon buan yn Chwefror 2020, rhywbeth a allai fod wedi arwain at ymateb mwy prydlon.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod, ar ôl i’r achos Covid cyntaf gael ei nodi yng Nghymru, Mark Drakeford wedi mynychu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mrwsel yn hytrach nag ymddangos mewn cyfarfod cabinet Llywodraeth Cymru.
Gan fod pob llywodraeth yn gweithredu ar gyfyngiadau yn wahanol wrth lacio cyfyngiadau, roedd y cyhoedd wedi eu “drysu”.
Mae’n cyfeirio at agweddau mwy pwyllog y llywodraethau datganoledig wrth lacio o gymharu â’r hyn oedd yn digwydd yn Lloegr dan arweiniad Llywodraeth y DU.
‘Arweinydd gofalus a phwyllog’
Yn groes i’r “ddiwylliant tocsig ac anhrefnus” a oedd o fewn Llywodraeth y DU, mae’r adroddiad yn nodi bod gweinidogion yn ystyried cabinet Llywodraeth Cymru yn fwy “cynhwysol” wrth wneud penderfyniadau.
Cafodd Mr Drakeford “ei gydnabod gan ei weinidogion fel arweinydd gofalus a phwyllog,” medd yr adroddiad.
“Fe wnaeth gynnal perthnasoedd cadarnhaol drwy gydol yr ymateb.”
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru: “Rwy'n croesawu’r ail adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi gan Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y Deyrnas Unedig. Hoffwn ddiolch i gadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Hallett, a'i thîm am eu gwaith ac am yr adroddiad heddiw.
“Mae'n bwysig ein bod ni’n cofio bod nifer fawr o bobl wedi dioddef colled a dioddefaint enfawr yn sgil Covid-19. Heddiw, rhaid i'n meddyliau ni fod gyda nhw uwchlaw popeth arall.
“Byddwn yn treulio amser yn darllen yr adroddiad a byddwn yn gweithio gyda llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig dros y misoedd nesaf i ystyried yr argymhellion a gweithredu arnynt. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o'r pandemig ac yn parhau i gymryd rhan weithredol yn ymchwiliad y DU.”