Cyn AS o Gymru yn gwadu bod â phasbort ffug yn ei meddiant
Mae cyn Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwadu bod ganddi basbort ffug tra'n Aelod Seneddol.
Katie Wallis, 41 o Drebiwt yng Nghaerdydd oedd yr Aelod Seneddol trawsryweddol agored cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe wnaeth Wallis, sydd yn defnyddio rhagenwau benywaidd, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau, gan gynrychioli ei hun yn y gwrandawiad.
Fe wnaeth hi wadu dau gyhuddiad mewn cysylltiad â phasbort ffug.
Y cyhuddiad cyntaf yw bod mewn meddiant o ddogfen hunaniaeth gyda bwriad amhriodol, sef 'pasbort Prydeinig dan yr enw Jamie Wallis, oedd yn ffug ac roedd y person yn gwybod neu'n credu iddo fod yn un ffug."
Yr ail gyhuddiad yw bod mewn meddiant ar ddogfen hunaniaeth ffug o dan yr enw Jamie Wallis.
Mae hi wedi ei hamau o feddu ar y ddogfen ym mis Ebrill 2022, pan roedd hi'n dal yn gwasanaethu fel AS Ceidwadol.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Bydd achos llys yn ei herbyn yn dechrau ar 2 Tachwedd 2026.
