Cymru i wynebu Bosnia a Hertsegofina yn gemau ail-gyfle Cwpan y Byd

2025-11-18-Cymru-v-North Macedonia-JS-131.jpg

Fe fydd tîm pêl-droed Cymru yn wynebu Bosnia a Hertsegofina yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2026.

Fe gafodd Cymru wybod eu bod yn herio Bosnia yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Mawrth, yn dilyn seremoni i dynnu enwau allan o’r het yn Zurich yn y Swistir ddydd Iau.

Os ydyn nhw'n fuddugol,  fe fyddent yn wynebu enillwyr gêm rhwng Yr Eidal a Gogledd Iwerddon, gyda Chymru yn eu herio mewn gêm gartref yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Ennill y gêm honno ac mi fyddent yn hawlio eu lle yng Nghwpan y Byd, a fydd yn cael ei gynnal yn yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico haf nesaf.

Fe gafodd Cymru eu rhoi ym mhot dau ar gyfer y seremoni ar ôl gorffen yn ail y tu ôl i Wlad Belg yn eu grŵp rhagbrofol.

Fe wnaeth y Cymry sicrhau'r ail safle gyda buddugoliaeth 7-1 gofiadwy dros Ogledd Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.