Aaron Ramsey a Dan James allan o garfan Cymru gydag anafiadau
Mae capten Cymru Aaron Ramsey a'r asgellwr Dan James allan o garfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg.
Fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru gadarnhau fore Llun bod y ddau chwaraewr ddim wedi teithio i ymuno â gweddill y garfan yn Hensol ym Mro Morgannwg.
Mae Rubin Colwill ac Isaak Davies, y ddau yn chwarae i Gaerdydd, yn ymuno gyda'r garfan yn eu lle.
Fe gafodd Ramsey ei adael allan o dîm Pumas UNAM yn erbyn Guadalajara yn Liga MX ddydd Llun.
Nid yw wedi chwarae pêl-droed rhyngwladol ers dioddef anaf i'w bigwrn yn ystod buddugoliaeth ei wlad yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym Montenegro ym mis Medi 2024.
Fe gafodd ei enwi yng ngharfan Cymru gan yr hyfforddwr Craig Bellamy yr wythnos diwethaf.
Ond yn ôl adroddiadau o Fecsico doedd Ramsey ddim wedi gallu cymryd rhan ym mharatoadau ei glwb ddydd Gwener ar ôl teimlo'n "anghyfforddus" wrth hyfforddi ddydd Iau.
Mae wedi chwarae chwe gêm i’r tîm yn Ninas Mecsico ers ymuno dros yr haf, ac wedi sgorio unwaith.
Wythnos diwethaf roedd amheuon y gallai Dan James golli gweddill ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd Cymru o achos anaf.
Dywedodd rheolwr Leeds United, Daniel Farke, ar y pryd bod James wedi anafu ei ffêr a bod disgwyl iddo fod allan am o leiaf pedair i chwe wythnos.
Pe bai James methu chwarae am chwe wythnos fe fydd yn colli'r gemau hollbwysig yn erbyn Liechtenstein a Gogledd Macedonia ym mis Tachwedd hefyd.
"Dywedodd y doctor ei bod yn debygol y bydd ef allan am bedair i chwe wythnos," meddai Farke.
"Felly mae hynny'n golygu ein bod yn disgwyl iddo ddychwelyd mwy neu lai ar ôl y saib rhyngwladol ym mis Tachwedd."
Bydd Cymru yn chwarae mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr yn Wembley ddydd Iau, 9 Hydref cyn croesawu Gwlad Belg i Stadiwm Dinas Caerdydd y dydd Llun canlynol.