Sgandal hacio ffonau: 'Y wasg wedi taflu cywilydd arna i'
Mae Charlotte Church wedi dweud bod y wasg wedi "taflu cywilydd" arni yn ystod y cyfnod pan honnodd fod ei ffôn wedi'i hacio.
Mae'r gantores 39 oed, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, wedi honni yn flaenorol iddi gael ei hacio gan y papur newydd News Of The World, a ddaeth i ben yn 2011, pan oedd yn 16 oed.
Yn dilyn hynny fe wnaeth cyhoeddwr y papur, News Group Newspapers, dalu iawndal sylweddol iddi a chynnig "ymddiheuriadau diffuant".
Mewn cyfweliad gyda The Big Issue, dywedodd Church bod "ymyrraeth y wasg yn wallgof" ar y pryd.
"Roedd pob math o bethau tywyll yn digwydd gyda'r cyfryngau'n cymryd drosodd y naratif," meddai.
"Rwy'n gwybod bod nifer o bobl ifanc yn teimlo bod pethau'n annheg, ond roedd yr ymdeimlad o anghyfiawnder a deimlais mor gryf, roedd yn teimlo fel cyllell i'r croen, yn darllen y pethau ofnadwy hyn yn ddyddiol."
Ychwanegodd: "Roedd hacio ffonau yn digwydd, ond doedden ni ddim yn gwybod amdano eto. Roedd straeon yn y papur newydd drwy’r amser, gyda llawer o bethau’n cael eu chwythu i fyny, eu camddehongli, eu gwneud yn ddrwg, pan nad oedden nhw mewn gwirionedd.
"Roedd llawer o gywilydd yn cael ei daflu ataf. Roedd y wasg yn ceisio’n daer fy ngwneud yn ffigwr o bechod.
"Roeddwn i’n gwybod nad oedd yn iawn. Roeddwn i'n gwybod tu mewn bod hwn yn gam enfawr."
Daw ei sylwadau wrth iddi ymddangos ar raglen The Celebrity Traitors y BBC a fydd yn dechrau nos Fercher gyda chast o 19 o enwogion.
Bydd y rhaglen yn gweld y sêr yn ymgynnull yn yr Ucheldiroedd yr Alban am y cyfle i ennill gwobr ariannol o hyd at £100,000 ar gyfer elusen o'u dewis.
Ers dechrau ei gyrfa ym 1997, mae Church wedi llwyddo i gael dau sengl â thri albwm yn y 10 uchaf yn y DU.