'Ddim eisiau edrych i'r dyfodol': Lewis Moody gyda'r clefyd Motor Niwron
Mae cyn gapten rygbi Lloegr, Lewis Moody wedi dweud bod ganddo'r clefyd Motor Niwron.
Wrth siarad gyda'r BBC dywedodd Moody, sy'n 47 oed nad ydy o eisiau meddwl i'r dyfodol ar hyn o bryd.
"Mae rhywbeth am edrych i'r dyfodol a pheidio â bod eisiau prosesu hynny ar hyn o bryd," meddai.
"Nid nad ydw i'n deall i ble mae'n mynd. Rydyn ni'n deall hynny. Ond mae yna amharodrwydd llwyr i edrych i'r dyfodol am y tro."
Fe wnaeth Moody a gafodd 71 cap i Loegr ddarganfod bod ganddo'r clefyd ar ôl sylwi bod ganddo wendid yn ei ysgwydd tra yn y gampfa.
Fe ddangosodd sganiau bod niwed wedi ei wneud i'w ymennydd a'r llinyn cefn yn sgil y clefyd.
Mae'n dweud ei fod yn teimlo yn iawn.
"Rwy'n dal yn gallu gwneud unrhyw beth a phopeth," meddai. "A gobeithio y bydd hynny'n parhau am gymaint ag sy'n bosib."
Does dim iachâd ar gyfer y clefyd ac mae'n bosib gweld dirywiad yn gyflym. Dim ond arafu'r dirywiad mae triniaeth yn gallu ei wneud ar hyn o bryd.
'Torcalonnus'
Yn ôl Lewis Moody roedd dweud wrth ei blant sydd yn 15 ac 17 oed am y diagnosis yn anodd.
"Maen nhw'n ddau fachgen gwych ac mi oedd hynny yn reit dorcalonnus," meddai.
Mae athletwyr ar y lefel uchaf yn cael eu heffeithio fwy gyda'r clefyd Motor Niwron. Y gred yw bod ymarfer caled cyson yn medru sbarduno'r clefyd i'r rhai sydd yn fwy tebygol o safbwynt geneteg i'w gael.
Ymhlith y chwaraewyr rygbi sydd wedi cael y clefyd mae Ed Slater a Doddie Weir a Rob Burrow sydd erbyn hyn wedi marw.
Byw yn y foment yw'r hyn sydd yn bwysig i Moody, meddai.
Mae'n dweud ei fod yn hyderus y bydd y gymuned rygbi yn gefn iddo.
"Mae rygbi yn gymuned mor wych," meddai.
"O'n i yn dweud wrth y plant y diwrnod o'r blaen. Dwi wedi cael bywyd anhygoel.
"Os y byddai popeth yn dod i ben rŵan, dwi wedi mwynhau'r cyfan ac wedi cofleidio popeth ac wedi cael gwneud y cyfan efo pobl anhygoel."