Dwy wobr i Bethan Rhys Roberts wrth gyhoeddi holl enillwyr BAFTA Cymru 2025

06/10/2025
Bafta a Bethan Rhys Roberts

Roedd dwy wobr i'r cyflwynydd newyddion Bethan Rhys Roberts wrth i holl enillwyr BAFTA Cymru ar gyfer 2025 gael eu cyhoeddi mewn seremoni fawreddog yng Nghasnewydd nos Sul.

Roedd y noson yng nghanolfan yr ICC, sy'n rhan o gampws y Celtic Manor yng Nghasnewydd yn cael ei gyflwyno unwaith eto eleni gan Owain Wyn Evans. 

Roedd yn noson lwyddiannus iawn i’r gyfres 'Lost Boys and Fairies' a gasglodd pedwar o'r gwobrau nos Sul.

Bethan Rhys Roberts oedd enillydd Gwobr Sian Phillips eleni am ei chyfraniad arbennig i fyd darlledu, ac fe gipiodd Bethan hefyd y wobr am y Cyflwynydd Gorau am ei gwaith yn cyflwyno Etholiad 2024. 

Wrth dderbyn y wobr diolchodd Bethan i’r tîm yn BBC Cymru oedd yn cynhyrchu’r rhaglen Etholiad 2024 a gwasanaeth Newyddion S4C.  

"Rwy'n gobeithio bod y wobr yma'n ysgogi newyddiadurwyr ifanc, a menywod yn arbennig, i fynnu ffeithiau, i graffu ac i herio," meddai.

Wrth siarad oddi ar y llwyfan dywedodd ei bod wedi gwybod am rai wythnosau am y wobr Sian Phillips ond ei fod yn "dal yn sioc anhygoel" o "ystyried pwy oedd wedi ennill yn y gorffennol".

Ymhlith yr enillwyr eraill  oedd y rhaglen Marw Gyda Kris (Ffilmiau Twm Twm) yn y categori Cyfres Ffeithiol. Derbyniodd S4C bob enwebiad yn y categori Rhaglen Blant gyda Deian a Loli (Cwmni Da) yn dod i’r brig y tro hwn.

Meddai Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Roedd gwylio’r holl enwebiadau heno yn atgoffa ni eto o gryfder y sector gynhyrchu yng Nghymru a pob clod i bawb oedd yn gyfrifol amdanynt.

“Hoffwn ddiolch o galon i’r enillwyr gynhyrchodd gynnwys S4C gydag ystod eang o genres a straeon gwreiddiol.”

Yn y categori ysgrifenwyr gorau, roedd y tri a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer yn gwneud hynny am y tro cyntaf, sef Abi Morgan (Eric), Daf James (Lost Boys and Fairies) a Nick Stevens (Until I Kill You), gydag Daf James yn cipio'r wobr eleni.    

Ymhlith yr enwebiadau eraill roedd Y Llais, Y Byd ar Bedwar: Huw Edwards, Newyddion S4C: Neil Foden, Wales at Six: Women's Euros Special a Legends of Welsh Sport: Liz Johnson.

RHESTR ENILLWYR YN LLAWN

  • Actor gorau: Sion Daniel Young
  • Actores orau: Anna Maxwell Martin
  • Gwobr torri drwadd: The Golden Cobra
  • Rhaglen blant orau: Deian A Loli
  • Cyfarwyddwr ffeithiol gorau: Miriam:Death Of A Reality Star
  • Cyfarwyddwr ffuglen gorau: Lost Boys and Fairies
  • Golygu gorau: Lost Boys and Fairies
  • Rhaglen adloniant orau: The Golden Cobra
  • Cyfres ffeithiol orau: Marw Gyda Kris
  • Gwobr am gyfraniad aruthrol i deledu - Russel T Davies
  • Rhaglen/cyfres materion cyfoeas orau: BBC Wales Investigates - Unmasked: Extreme Far Right
  • Ffotograffiaeth a goleuo gorau mewn ffuglen - Mr Burton
  • Cyflwynydd gorau - Bethan Rhys Roberts
  • Gwobr Sian Pillips - Bethan Rhys Roberts
  • Gwobr am y ffilm fer orau - Mauled by a dog
  • Rhaglen ddogfen unigol orau: Helmand: Tour of Duty
  • Gwobr am y sain gorau: Mr Burton
  • Drama deledu orau: Lost Boys And Fairies
  • 'Sgwennwr gorau: Lost Boys and Fairies

     


     

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.