Ymgyrch codi arian i ddwy chwaer o Wynedd yn cyrraedd £10,000
Mae ymgyrch codi arian i helpu teulu dwy chwaer o Wynedd a gafodd eu hanafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad ger Bangor wedi cyrraedd £10,000 erbyn hyn.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad, rhwng VW Golf gwyn a Vauxhall Corsa du, ar Ffordd Treborth ar yr A487 am 20.31 ar 23 Medi.
Fe gafodd merch 17 oed ei chludo i Ysbyty Gwynedd, cyn cael ei chludo gan ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.
Fe wnaeth pobl eraill oedd yn teithio yn yr un car ddioddef anafiadau difrifol, gan hefyd dderbyn triniaeth feddygol.
Cafodd gyrrwr y VW Golf, dyn 57 oed, ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau ac achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus.
Mae bellach wedi cael ei gyhuddo o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus.
Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd gyda mân anafiadau.
Mewn neges ar yr apêl codi arian i'r ddwy chwaer, dywedodd eu modryb bod ei "nith, Lydia, wedi ei chludo gan ambiwlans awyr i Stoke, a'i chwaer Lili wedi ei chludo i Alder Hey."
"Mae eu Tad gyda'r ferch ieuengaf yn Lerpwl, a Mam gyda Lydia (y gyrrwr) yn Stoke," meddai.
"Byddai unrhyw gymorth i leddfu'r pwysau sydd ar y teulu yn cael ei werthfawrogi yn fawr."