
'Grwpiau cymorth Parkinson's yn hanfodol yng nghefn gwlad'
Mae dynes o Wynedd sy'n byw â'r cyflwr Parkinson's yn dweud ei fod yn "hanfodol" cael grwpiau cymorth yng nghefn gwlad wrth i elusen rybuddio bod stigma yn rhwystro pobl rhag ymuno.
Cafodd Nora Jones, 80, o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle, ddiagnosis o Parkinson's yn 2017, sef cyflwr niwrolegol sy'n datblygu'n raddol.
Ers hynny, mae hi wedi bod yn mynd i grwpiau cymorth sy'n cael eu cynnal gan elusen Parkinson's UK Cymru yng Ngwynedd a Môn, gan gynnwys y diweddaraf ym Mlaenau Ffestiniog.
"Maen nhw'n rhan hanfodol o fy mywyd bellach, achos os dw i ddim yn mynd dw i'n dechrau hunan-ynysu a theimlo'n unig," meddai.
"Mae o'n gwneud andros o les i fi felly mi fyswn i'n cymeradwyo'r syniad i unrhyw un."
Daw ei sylwadau wrth i'r elusen ddweud bod yn rhaid iddyn nhw gydweithio gyda sefydliadau eraill i gynnal grwpiau yng nghefn gwlad.
Dyna'r her ym Mlaenau Ffestiniog ar hyn o bryd wrth i'r elusen geisio cydweithio gyda Chymdeithas MS Cymru i gynnal y grŵp cymorth yno.
Cafodd y grŵp ei sefydlu ym mis Hydref y llynedd gan deulu Brian Lloyd Jones o'r dref a fu farw wedi brwydr pedair blynedd gyda Parkinson’s.

Dywedodd Dawn McGuinness, rheolwr datblygu cymunedol Parkinson's UK Cymru, ei bod yn awyddus i barhau â'r grŵp.
"Roedd pobl yn falch iawn bo' ni’n cychwyn wbath ym Mlaenau Ffestiniog, mae’n anodd cychwyn grŵp newydd mewn cymunedau mwy gwledig," meddai.
"Ac mi naethon ni ddechrau’n reit gryf ac roedd pobl a fynychodd yn falch iawn bo' nhw wedi cael mynediad at grŵp yn yr ardal, ond fel mae pethau’n digwydd roedd 'na rai wedi syrthio allan am wahanol resymau fel iechyd neu symud allan o’r ardal."
Fe aeth yr elusen at y teulu i ofyn am ganiatâd i gydweithio ag elusennau sy'n cefnogi pobl â chyflyrau niwrolegol eraill fel sglerosis ymledol a strôc.
Yn ôl Ms McGuinness, mae stigma yn rhwystro pobl rhag mynd i grwpiau cymorth – yn enwedig mewn cymunedau bach yng nghefn gwlad.
"Pan mae rhywun yn cael diagnosis, fel arfer maen nhw'n ddeud, 'Dw i'm isho mynd i grŵp, achos dw i'm isho gweld fy hun mewn 10 mlynedd i wan'," meddai.
"Dyna’r rheswm mae pobl yn rhoi a wedyn ella bo' nhw’n barod i ddod dwy, dair, bedair blynedd i lawr y ffordd."
Ychwanegodd bod rhai pobl yn penderfynu cuddio eu diagnosis rhag eu teuluoedd.

Mae Ms Jones yn dweud ei bod yn deall hynny, ond na ddylai pobl deimlo cywilydd.
"Er o'n i'n teimlo'n apprehensive nes i 'rioed deimlo dim byd ond bo fi'n cawel fy nghroesawu. Does 'na neb yn beirniadu neb arall," meddai.
"Y peth gora am y grŵp ym Mlaenau Ffestiniog, er enghraifft, ydi chwarae boccia, sydd fath â boules, neu pétanque yn Ffrainc.
"Mae'r peli yn feddal felly maen nhw'n hawdd i ni afael ynddyn nhw. 'Da ni'n cael hwyl a dw i'n gystadleuol iawn, felly dwi'n gweiddi!"
Ond y peth pwysicaf, meddai, ydi gallu cymdeithasu gyda phobl eraill â'r cyflwr drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae 'na lot ohona ni yna sy'n siarad Cymraeg, sy'n beth gwych i mi," meddai.
"Dw i'n teimlo'n lot fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg."
Beth ydi Parkinson's?
Cyflwr niwrolegol ydi Parkinson's sy'n datblygu'n raddol dros amser.
Nid oes gan bobl â Parkinson ddigon o'r cemegyn dopamin yn eu hymennydd oherwydd bod rhai celloedd nerf wedi stopio â gweithio.
O ganlyniad mae hynny’n lleihau gallu’r corff i reoli symudiad, gan achosi symptomau fel cryndod ac anystwythder.
Yn ôl Parkinson’s UK, mae’r cyflwr yn effeithio ar tua 8,300 o bobl yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, nid oes meddyginiaeth sy’n gallu cynnig gwellhad llwyr i’r cyflwr.
Prif lun: Andrew Hill / Wikimedia Commons