Millar: 'Llafur a Plaid Cymru yn cynnig cenedlaetholdeb peryglus'

Darren Millar

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud wrth gynhadledd ei blaid ym Manceinion ddydd Sul fod y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn cynnig "cenedlaetholdeb peryglus" yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i Darren Millar ddweud mai'r Blaid Geidwadol yw'r unig blaid sydd â "chynllun credadwy i drwsio Cymru".

Mae arolwg barn ddiweddar ar gyfer etholiadau’r Senedd gan ITV a Phrifysgol Caerdydd wedi awgrymu y gallai'r Ceidwadwyr ennill chwe sedd yn unig, gyda'r Blaid Lafur yn ennill 11, Reform UK yn cipio 37 a Phlaid Cymru gyda 38.

Bydd Mr Millar yn rhybuddio am y posibilrwydd o glymblaid rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

"Mae Llafur Cymru yn cynllwynio cynllun arall gyda Phlaid Cymru i roi mwy o’r un bwyd sosialaidd, aflwyddiannus, diffyg maeth, sydd wedi’i ailgynhesu, y mae Cymru wedi blino arno, ond y tro hwn gydag ychydig o genedlaetholdeb peryglus," mae disgwyl iddo ddweud.

Bydd yn mynd yn ei flaen i gyhuddo Plaid Cymru o fod eisiau "rhwygo Cymru oddi wrth y DU" ac "adeiladu wal lechi ar draws ein ffin", gan honni y gallai hyn "ddod â’r hawl i fyw, gweithio, astudio a masnachu yn unrhyw le yn y DU i ben".

Mae disgwyl iddo hefyd ddweud bod Reform UK yn peri "perygl clir a phresennol i'n diogelwch cenedlaethol".

Bydd yn dweud: "Fe wnaeth Nathan Gill gyfaddef iddo gymryd llwgrwobrwyon i wneud datganiadau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop. Mae bellach yn wynebu blynyddoedd yn y carchar," gan honni "na ddylai’r straeon hyn eich synnu chi". 

Ond mae disgwyl iddo ddweud bod gan y Ceidwadwyr Cymreig "gynllun credadwy i drwsio Cymru".

Bydd yn dweud: "Rydym yn barod i dorri treth incwm Cymru, sgrapio cyfraddau ar gyfer busnesau bach, cefnogi cwmnïau a ffermydd teuluol, dileu gwariant gwastraffus, buddsoddi yn ein ffyrdd, amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, adfer disgyblaeth a chodi safonau yn ein hysgolion, mynd i'r afael â'r argyfwng yn y GIG yng Nghymru, ac amddiffyn y DU." 

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: "Mae’r syniad y bydd 26 mlynedd o fethiant Llafur yng Nghymru yn cael ei ddatrys gan y Torïaid yn gwbl hurt.

"Mae’r Blaid Geidwadol wedi caniatáu i fewnfudo cyfreithlon ac anghyfreithlon i’n gwlad fynd yn llwyr allan o reolaeth.

"Dyna pam mae pobl yng Nghymru, o gadarnleoedd y Ceidwadwyr i galonnau Llafur, bellach yn edrych at Reform."

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.