
O 20 stôn i Hanner Marathon Caerdydd: Tad yn diolch i'w ferch am ei ysbrydoli
O 20 stôn i Hanner Marathon Caerdydd: Tad yn diolch i'w ferch am ei ysbrydoli
Mae tad o Aberdâr oedd “methu cerdded i ben draw'r ardd” wedi diolch i’w ferch am ei “lusgo” i ymarfer corff wrth iddyn nhw baratoi i redeg Hanner Marathon Caerdydd gyda’i gilydd.
Bydd Gareth Parfitt, 47, a'i ferch Lucy Parry, 26, ymhlith bron i 30,000 o bobl a fydd yn rhedeg yr hanner marathon drwy’r brifddinas ddydd Sul.
Ac mae Gareth eisiau diolch i’w ferch am ei annog i’w redeg gyda hi gan ddweud na fyddai e erioed wedi ystyried her o’r fath cyn iddi ei ysbrydoli.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Adeg yma llynedd o’n i’n pwyso bron i 20 stôn.
“Dwi’n pwyso 15 stôn 4 pwys nawr, felly dwi wedi colli lot o bwysau.”
“Dwi wrth fy modd. Mae wedi ein gwneud ni’n llawer yn agosach a dwi wir yn gwerthfawrogi’r hyn mae [Lucy] wedi gwneud i mi.
“Mae wedi helpu fi i newid fy ffordd o fyw ac i fi, wrth i fi fynd yn hŷn, dwi’n mynd yn fwy ffit ac yn teimlo’n lot gwell.”

'Ffordd i fynd'
Fe fydd y pâr yn gobeithio cwblhau’r her er cof am aelod annwyl o’u teulu, sef John Paul Eyles.
Bu farw John Paul, sef brawd Gareth, yn 51 oed ar 27 Awst 2025 yn dilyn brwydr â chanser.
Mae’r tad a'r ferch yn dweud eu bod nhw’n benderfynol o groesi’r llinell terfyn ochr yn ochr ddydd Sul, a hynny tra'n gwisgo crysau-t gyda llun o Gareth a'i frodyr, er cof am John Paul.

“Pan da ni’n rhedeg, da ni ddim yn meddwl am amseroedd, da ni jyst yn rhedeg gyda’n gilydd,” meddai Gareth.
“S’dim ots am ba amser da ni’n gorffen neu ym mha safle neu dim byd fel ‘na – da ni jyst yn ‘neud e er mwyn rhedeg gyda’n gilydd a threulio amser gyda’n gilydd.”

'Mor falch'
Mae Lucy yn dweud ei bod hi’n “falch iawn” o’i hun a’i thad am ymrwymo i’r her eleni.
Dyma fydd yr ail-dro iddi redeg Hanner Marathon Caerdydd wedi iddi ei gwblhau am y tro cyntaf y llynedd.
“Roedd y ddau o ni eisiau gwella ein hiechyd ni… da ni wedi bod yn rhedeg nawr am tua pedwar neu pump mis gyda’n gilydd," meddai.
“Da ni’n dod allan o gwely tua chwech o’r gloch yn y bore ac y peth cyntaf ni’n ‘neud yw rhedeg gyda’n gilydd.
“Da ni’n mwynhau rhedeg gyda’n gilydd a mae tad fi’n gallu rhedeg yn gyflymach na fi nawr i dweud y gwir, ond mae dal yn aros da fi, a da ni’n rili mwynhau."

Ac wrth iddi edrych i’r dyfodol, mae’n parhau i fod yn uchelgeisiol.
“Da ni wedi mynd o redeg dim o gwbl i dweud y gwir a nawr da ni’n gobeithio rhedeg marathon blwyddyn nesaf," meddai.
“Da ni wedi dod yn bell – dod yn bell ond dal â ffordd i fynd.”