Dyn yn gwadu dwyn gemwaith aur o Sain Ffagan
Mae dyn wedi gwadu lladrad ar ôl i emwaith aur o’r Oes Efydd gael ei ddwyn o amgueddfa Sain Ffagan yng Nghaerdydd.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod sawl eitem wedi cael eu dwyn o gas arddangos yn y prif adeilad yr amgueddfa ar gyrion y brifddinas tua 00.30 ar Hydref 6.
Fe ymddangosodd Gavin Burnett, 43, yn Llys y Goron Northampton trwy gyswllt fideo o Garchar Peterborough ddydd Mercher a phledio yn ddieuog i’r cyhuddiad.
Plediodd y dyn o Berrywood Close, Northampton, yn ddieuog hefyd i gyhuddiadau o gynllwynio i gyflawni lladrad, cynllwynio i ddwyn, a bygwth lladd yn ystod yr un gwrandawiad.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n parhau i chwilio am yr eitemau canlynol fel rhan o'r ymchwiliad:
• Lwnwla aur o'r Oes Efydd Gynnar o Lanllyfni, Gwynedd.
• Casgliad o bedwar breichled aur o'r Oes Efydd Ganol o Lanwrthwl, Powys.
• Casgliad o bum eitem aur o'r Oes Efydd Ganol yng Nghapel Isaf, Sir Gaerfyrddin.
• Casgliad o dair eitem aur o'r Oes Efydd Ganol o Landdewi-yn-heiob, Powys.
Ymddangosodd Darren Burnett, 50, o Sharrow Place, Northampton, hefyd drwy gyswllt fideo ar gyfer y gwrandawiad 25 munud ond ni ofynnwyd iddo bledio.
Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen y llys unwaith eto ar Ragfyr 11.
Mae'r heddlu wedi dweud bod menyw 45 oed o Sir Northampton wedi cael ei harestio fel rhan o'r ymchwiliad ac mae ar fechnïaeth.