'Angen blaenoriaethu cymorth i wasanaethau cymunedol i atal hunanladdiad'
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad.
Mae elusen iechyd meddwl yn dweud bod angen blaenoriaethu cymorth i wasanaethau cymunedol i geisio helpu atal hunanladdiadau.
Mae Mind Cymru yn galw am flaenoriaethu cymorth i'r trydydd sector wrth gyflawni strategaeth Cymru ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Daw'r alwad ar ôl i ffigurau ddangos bod dynion bellach yn cynrychioli dros dri chwarter y marwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig yng Nghymru.
Mae 350 o bobl yn marw oherwydd hunanladdiad tybiedig yng Nghymru bob blwyddyn, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd 76% o'r marwolaethau hynny yn y flwyddyn 2023-24 yn ddynion, meddai'r ffigurau.
'Dim byd ar gael i dadau'
Fe wnaeth Aled Edwards geisio lladd ei hun chwe wythnos ar ôl genedigaeth ei blentyn ieuengaf.
Dywedodd y tad o Fangor ei fod wedi ceisio gwneud hynny wedi i deimladau o beidio â bod yn ŵr a thad digon da ei lethu.
"Roeddwn i’n deffro yng nghanol y nos gyda fy ngwraig, roeddwn i'n newid clytiau bob tro roedd hi'n bwydo ar y fron, roeddwn i’n gwneud fy ngorau. Ond roedd rhywbeth yn fy mhoeni o hyd nad oeddwn i'n gallu rhoi fy mys arno," meddai.
"Felly, roeddwn i'n credu mai'r peth gorau i bawb fyddai i mi gael gwared ar y broblem, sef fi fy hun."
Fe aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi llwyddo i ofyn am gymorth gyda chefnogaeth ei deulu a'i ffrindiau.
"Dyna pryd gefais i ddiagnosis o iselder ar ôl geni - rhywbeth nad oeddwn i hyd yn oed yn sylweddoli y gallai dynion ei gael," meddai.
"Roeddwn i’n chwilio am rywle i siarad yn agored am fy mhrofiad, lle i ddynion eistedd gyda’i gilydd a rhannu eu profiadau heb ofni na chael eu barnu, ond doedd dim byd fel yna ar gael i dadau."
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant, mae nifer y dynion sy'n dioddef o iselder yn ystod blwyddyn gyntaf eu tadolaeth ddwywaith yn fwy na phoblogaeth gyffredinol y DU.
Ers hynny, mae Mr Edwards wedi lansio ei fenter gymdeithasol ei hun o'r enw Sut Mae Dad? sy'n cefnogi iechyd meddwl, iselder ar ôl geni, ac atal hunanladdiad ymysg dynion, i helpu i bontio'r bwlch mewn gwasanaethau iechyd meddwl i dadau.
Beth ydi'r strategaeth hunanladdiad?
Cafodd strategaeth Dealltwriaeth y llywodraeth ei gyhoeddi ym mis Ebrill.
Ei nod yw lleihau cyfradd hunan-niweidio, hunanladdiad, ac ymgais i gyflawni hunanladdiad yng Nghymru.
Dywedodd Mind Cymru fod cyhoeddi’r strategaeth yn ddatblygiad mae’n ei groesawu, ond bod angen mwy o fuddsoddiad yn y trydydd sector i helpu i wella'r cymorth ymarferol sydd ar gael i bobl fel Mr Edwards.
Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchu Mind Cymru: "Mae hunanladdiad yn fater hynod gymhleth ac, fel mae stori Aled yn ei ddangos, mae profiadau pawb yn wahanol. Mae dod yn rhiant am y tro cyntaf yn un o'r adegau lle mae wir angen cefnogaeth emosiynol ychwanegol.
"Mae ein rhwydwaith o ganghennau Mind lleol yn darparu cymorth gwerthfawr yn y gymuned i bobl â'u hiechyd meddwl ledled Cymru, gan gynnwys rhieni newydd, drwy ein rhaglen Mamau yn Bwysig, ond mae'n amlwg bod angen cefnogi tadau hefyd.
"Mae profiadau fel rhai Aled yn dangos i ni ei bod yn bwysicach nag erioed adeiladu ar wasanaethau fel y rhain i helpu i sicrhau bod pawb sydd â phroblem iechyd meddwl yng Nghymru yn gallu cael y cymorth angenrheidiol."
Ychwanegodd: "Rhaid i bawb gael y sgiliau a'r wybodaeth gywir er mwyn i hunanladdiad a hunan-niweidio fod yn berthnasol i bawb, yn enwedig o ran gwella'r gefnogaeth i ddynion – mae llawer gormod ohonynt yn parhau i gael trafferth gyda stigma, neu i gael eu clywed yng Nghymru heddiw.
"Yn ymarferol, mae hynny'n golygu gwrando ar fudiadau trydydd sector lleol sydd eisoes yn gweithio'n agos gyda'u cymunedau lleol, a buddsoddi ynddynt, er mwyn rhoi cefnogaeth iddynt sut bynnag y gallant."
Ymateb
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Eleni fe wnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio newydd, sy'n tynnu ar brofiad pobl ac sy'n anelu at leihau cyfraddau hunanladdiad ac ymgais i hunanladdiad.
"Rydym yn datblygu mynediad agored at gymorth iechyd meddwl ar yr un diwrnod i sicrhau bod pobl yn gallu derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt. Rydyn ni eisiau i bobl, yn enwedig dynion, fod yn hyderus i estyn allan pan fydd angen help arnynt.
"Rydym hefyd yn buddsoddi mwy na £2m yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad ac Ymchwil Hunan-niweidio ym Mhrifysgol Abertawe drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n hwb sylweddol o ran deall risg hunanladdiad, yn enwedig ymhlith dynion, a sut y gallwn gynnig cymorth amserol."
Os ydych chi wedi cael eich heffeithio gan gynnwys yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.