Caernarfon: Cwest yn clywed fod cyn-blismon wedi marw ar ôl cael ei daro gan fan
Mae cwest i farwolaeth cyn-blismon a fu farw ar ffordd osgoi yng Ngwynedd wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau trawmatig ar ôl cael ei daro gan fan.
Bu farw Geraint Jones, 64 oed, yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Caernarfon ger Bontnewydd am tua 20.30 ar nos Sul, 9 Tachwedd.
Wrth agor y cwest i'w farwolaeth fore dydd Mercher, dywedodd Sarah Riley, y Crwner Cynorthwyol ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru, fod Mr Jones yn byw ar Ffordd Crwys, Bangor, ac roedd yn blismon cyn iddo ymddeol.
Roedd yn enedigol o'r Felinheli.
"Bu farw Geraint Jones ar ddydd Sul 9 Tachwedd ar ffordd osgoi A487 Caernarfon," meddai Ms Riley.
"Cafodd ei farwolaeth ei chofnodi am 20:46 gan y parafeddyg Mathew Price.
"Cafodd ei adnabod yn ffurfiol gan PC Roberts o Heddlu Gogledd Cymru."
Dywedodd fod Mr Jones wedi bod yn cerdded ar hyd ffordd osgoi Caernarfon pan gafodd ei daro'n angheuol gan fan Ford Transit.
Post mortem
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal gan batholegydd o'r swyddfa Gartref, Dr Brian Rogers, ar 12 Tachwedd.
Canfyddiad cychwynol yr archwiliad hwnnw oedd fod Mr Jones wedi marw o ganlyniad i anafiadau trawmatig i'w gorff.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gwblhau eu hymchwiliadau.
Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd teulu Mr Jones mewn teyrnged iddo fod eu "calonnau wedi eu torri'n llwyr."
“Fel teulu hoffwn ddiolch i’r gwasanaethau brys a phawb arall oedd yn bresennol am eu cymorth wrth geisio helpu Geraint ar y noson," medden nhw.
“Hoffwn ddiolch i bawb hefyd am eu negeseuon caredig llawn cariad a chefnogaeth yn ystod yr amser trist yma."