Dyn yn pledio’n euog i geisio llofruddio chwaraewr rygbi ifanc

Morgan 'Hoppy' Hopkins a'i deulu

Mae dyn wedi pledio yn euog i geisio llofruddio chwaraewr rygbi ifanc mewn ymosodiad yn yr haf.

Roedd Kane Evans, 20 oed, wedi ei gyhuddo o drywanu Morgan 'Hoppy' Hopkins (uchod) ar ddydd Sul Mehefin 22, eleni yng Nghlwb Cymdeithasol The New Lodge, Heol Alexandra, Gorseinon.

Cafodd Morgan Hopkins ei drywanu sawl gwaith, gan ei adael ag anafiadau i'w freichiau a'i goluddyn.

Plediodd Kane Evans o Orseinon yn euog mewn gwrandawiad o flaen yr Ustus Thomas ar 17 Tachwedd. 

Fe fydd gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 19 Rhagfyr.

Mae cyfeillion Morgan Hopkins wedi codi dros £6,000 ar gyfer ei adferiad corfforol a meddyliol ers yr ymosodiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.