Arestio 12 o brotestwyr Palestine Action yn Aberystwyth
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod 12 o bobl wedi cael eu harestio yn Aberystwyth ddydd Mawrth fel rhan o brotest Palestine Action.
Fe gafodd y bobl a gafodd eu harestio eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio wedi’r brotest am tua 13.00, meddai Heddlu Dyfed-Powys.
Roedd rhwng 20 a 30 o bobl wedi ymgasglu ar y prom yn dal arwyddion: “Rwy’n gwrthwynebu hil-laddiad. Rwy’n cefnogi Palestine Action.”
Fe wnaeth protestwyr ar draws 10 tref a dinas yn y Deyrnas Unedig gymryd rhan mewn protestiadau ddydd Mawrth yn gofyn am godi’r gwaharddiad ar Palestine Action, wedi ei drefnu gan y grwp Defend Our Juries.
Roedd protestiadau eraill ddydd Mawrth yng Nghaerdydd; Nottingham, Gloucester, Truro, Northampton, Rhydychen, Leeds, Newcastle yn Lloegr; a Chaeredin yn yr Alban.
Fe ddaeth y gwaharddiad ar Palestine Action i rym ar 5 Gorffennaf, ac mae aelodaeth o’r grŵp gweithredu uniongyrchol, neu gefnogaeth iddo, yn drosedd allai arwain at ddedfryd o garchar.
Dywedodd Defend Our Juries y bydd protestiadau pellach ar draws y DU dros yr wythnos nesaf.