Achos Neil Foden: ‘22 o ddioddefwyr honedig yn rhan o erlyniad sifil yn erbyn Cyngor Gwynedd’

foden.png

Mae cwmni cyfreithiol wedi dweud bod 22 o ddioddefwyr honedig y pedoffeil Neil Foden yn rhan o erlyniad sifil yn erbyn Cyngor Gwynedd.

Dywedodd cwmni Andrew Grove & Co Solicitors o Gaergrawnt eu bod yn siwio Cyngor Gwynedd ar ran 22 o ddioddefwyr rhwng 15 a 58 oed.

Mae’r hawliadau yn ymwneud â bwlio a chamdriniaeth gorfforol, yn ogystal ag achosion o gamdriniaeth rywiol.

Mae’r cyfreithiwr Katherine Yates o’r cwmni wedi galw am ymchwiliad annibynnol i pam bod awdurdodau wedi methu gwarchod dioddefwyr rhag y cyn brif athro.

Cafodd Foden, 68 oed, oedd yn gyn-brifathro ar Ysgol Friars ym Mangor, ei garcharu am 17 mlynedd y llynedd ar ôl ei gael yn euog o 19 o droseddau cam-drin rhywiol yn ymwneud â phedair merch.

Fe wnaeth adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant, a gafodd ei gyhoeddi ddechrau’r mis, amlygu 52 o gyfleoedd a gafodd eu methu i atal Foden rhag parhau i droseddu.

Dywedodd Jan Pickles OBE, oedd yn gyfrifol am yr adroddiad fel cadeirydd annibynnol panel yr adolygiad, wrth Newyddion S4C ei bod yn “pryderu fod yna ragor o ddioddefwyr allan yna.”

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud eu bod nhw’n derbyn holl ganfyddiadau’r Adolygiad Ymarfer Plant, “yn cymryd cyfrifoldeb am y methiannau sy’n cael eu hamlygu” ac “yn ymddiheuro’n gwbl ddidwyll i’r holl ddioddefwyr”.

“Byddwn yn edrych yn fanwl ar bob cyfle a fethwyd sydd wedi ei adnabod yn yr adroddiad, gan gynnwys sut y bu i staff ymateb i wahanol sefyllfaoedd,” medden nhw.

'Methiannau systematig'

Dywedodd Katherine Yates ei bod wedi'i dychryn gan y canfyddiadau: “Mae hwn yn adroddiad syfrdanol sy'n manylu ar dros 50 o achosion lle gellid a dylid bod wedi gwneud rhywbeth ond na wnaed.

“Mae'r awdurdod lleol wedi dweud ei fod yn ddrwg ganddyn nhw ac y dylen nhw fod wedi gwneud pethau'n well, ond yn fy marn i nid yw hynny'n ddigon da. 

“Mae methiannau systematig yma ac mae angen atebolrwydd - pam na chymerwyd camau gweithredu?”

Dywedodd fod yr adolygiad wedi gwneud “argraff fawr” arni a bod Jan Pickles a’i thîm wedi gwneud “gwaith gwych”.

Ond roedd angen ymchwiliad pellach meddai i’r 52 o gyfleoedd a fethwyd, “pwy ddylai fod wedi gweithredu a pam eu bod nhw wedi methu a gwneud hynny”.

Mae Newyddion S4C wedi holi Cyngor Gwynedd am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.