
Storm Amy: Cannoedd heb drydan wrth i wyntoedd cryfion daro'r wlad
Mae Storm Amy wedi achosi trafferthion ar draws Cymru ddydd Sadwrn gyda channoedd o gartrefi heb gyflenwad trydan.
Dywedodd SP Energy Networks bod 450 o gartrefi heb drydan yn y gogledd, gyda'r Grid Cenedlaethol yn adrodd bod tua 750 heb drydan yn y de a'r gorllewin.
Mae'r storm, sef y gyntaf i gael ei henwi gan y Swyddfa Dywydd yn nhymor 2025/26, hefyd wedi achosi trafferthion i deithwyr ar draws y wlad.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod gwasanaethau trenau rhwng Caerdydd ac Amwythig wedi eu canslo ar ôl i goeden ddisgyn ar y traciau.
O ganlyniad ni fydd trenau'n rhedeg rhwng y lleoedd yma "tan hysbysiad pellach" ac ni fydd gwasanaethau bws ar waith chwaith.
Cafodd gwasanaethau trenau rhwng Tywyn a Harlech hefyd eu canslo fore Sadwrn ar ôl i gwch daro pont ym Mermo.

Cafodd taith fferi Stena Adventurer o Ddulyn i Gaergybi ei chanslo fore Sadwrn yn sgil y tywydd garw.
Mae'r amodau gwael hefyd wedi effeithio ar deithwyr ar y ffyrdd, gyda Phont Hafren ar yr M48 wedi'i chau i'r ddau gyfeiriad.
Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn bod nifer o goed wedi disgyn ar draws ffyrdd ac y bydd y gwaith clirio yn dechrau prynhawn Sadwrn.
Rhybuddion melyn
Daw'r problemau ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi sawl rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yng Nghymru dros y penwythnos.
Mae'r rhybudd cyntaf wedi bod mewn grym ers 15.00 ddydd Gwener yn ardaloedd o ogledd a gorllewin Cymru.
Am 00.00 ddydd Sadwrn, daeth ail rybudd am wynt i rym sy'n effeithio ar weddill y wlad, a hynny tan 19.00.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwyntoedd godi i hyd at 70mya mewn rhai mannau.
Mae'n dweud hefyd y gallai’r storm achosi difrod i adeiladau ac effeithio ar gyflenwadau pŵer.
Rhwng 15.00 ddydd Gwener a 23.59 ddydd Sadwrn, mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Powys
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Sir Gaerfyrddin
- Wrecsam
- Ynys Môn
Yna rhwng 00.00 a 19.00 ddydd Sadwrn, bydd ail rybudd yn dod i rym i'r siroedd canlynol: