Ennill Cwpan y Byd gyda Chymru yn 71 oed yn 'uchafbwynt gyrfa'

Cymru dros 70

Mae un o chwaraewyr tîm pêl-droed dros 70 oed Cymru wedi dweud bod ennill Cwpan y Byd yn "uchafbwynt fy ngyrfa".

Roedd Peter Morgan, 71 oed o Ben-y-bont ar Ogwr yn rhan o garfan Cymru enillodd y gystadleuaeth yn Tokyo ddydd Gwener.

Enillodd Cymru 2-0 yn erbyn Freddy Fund yn y rownd derfynol - tîm o dalaith Texas sydd yn cynnwys chwaraewyr o sawl ardal yn yr Unol Daleithiau.

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Mr Morgan ei fod yn anodd disgrifio'r teimlad o ennill Cwpan y Byd.

"Mae'n deimlad anhygoel, mae'n anodd rhoi mewn geiriau," meddai.

"Mae gennym ni dîm anhygoel, mae'n bleser cael chwarae gyda nhw.

"Yn sicr dyma uchafbwynt fy ngyrfa - dwi wedi mwynhau chwarae mwy yn y timau hŷn nag yr oeddwn fel chwaraewr ifanc.

"Chwaraeais i Bridgend Town a Bryntirion, safon eithaf da - ond pêl-droed gyda'r timau hŷn yw'r pinacl."

Image
Tîm Cymru dros 70 yn Tokyo
Tîm Cymru dros 70 yn Tokyo.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal ym Mharc Olympaidd Komazawa ym mhrifddinas Japan dros dri diwrnod.

Er i Gymru ennill 2-0 yn y rownd derfynol, Freddy Fund oedd wedi dominyddu'r meddiant a chreu sawl cyfle.

Roedd angen i amddiffyn Cymru bod ar eu gorau i beidio ildio, ac mae'r golwr yn rhan hollbwysig wrth geisio cyflawni hynny.

Alan Meacham oedd golwr Cymru, ac roedd ei arbediadau wedi helpu tîm dros 70 Cymru ennill Cwpan y Byd am yr ail flwyddyn yn olynol.

Yn 71 oed mae'n cymryd llawer o egni i Alan ddeifio o un ochr y gôl i'r llall i arbed ergydion y gwrthwynebwyr.

"Yr awydd i chwarae, cael y gorau allan ohonoch chi'ch hun a chadw'n heini - dyna sydd fy nghadw i i fynd," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae'n rhoi rheswm i chi i gadw'n heini, yn ogystal â'r ochr gystadleuol o chwarae pêl-droed.

"Mae pob un ohonom wedi gwneud ffrindiau drwy chwarae pêl-droed hŷn - mae'n dda i'n hiechyd corfforol a meddyliol.

"Pe bai chi wedi dweud wrtha i pan oeddwn i'n 20, 30 mlynedd yn iau y byddwn ni dal yn chwarae a chynrychioli Cymru yn ein 70au, byddwn i ddim wedi credu chi."

'Byth rhy hwyr i chwarae'

Mae gemau'r tîm dros 70 Cymru yn cael eu chwarae ar gaeau maint llawn.

Fe allai hyn fod yn heriol i'r chwaraewyr oherwydd bod y cae mor fawr, meddai Peter Morgan.

"Mae ymarfer yn gallu bod yn waith caled, felly mae'n anodd ceisio rhedeg dros y cae i gyd pan chi'n oedran ni," meddai.

Ond fe ddywedodd ei fod yn byth rhy hwyr i gychwyn chwarae - a bod croeso i bawb sydd eisiau ymuno gyda chlybiau lleol.

"Byddwn yr argymell i unrhyw un dechrau chwarae, achos mae clybiau yn croesawu pawb o bob oedran," meddai.

"Mae pawb yn ei fwynhau a chi'n dod yn rhan o gymuned."

Ychwanegodd Alan Meacham: "Dyw e byth rhy hwyr i ddechrau chwarae.

"Cymerwch bethau'n araf bach i gychwyn ac yna fyddwch chi'n barod i fynd."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.