O leiaf 23 ac 17 mlynedd yn y carchar i daid a nain am lofruddio eu hŵyr dyflwydd oed

Ethan Ives-Griffiths

Mae taid a nain o Sir y Fflint wedi cael eu dedfrydu i o leiaf 23 ac 17 mlynedd yn y carchar am lofruddio eu hŵyr dyflwydd oed Ethan Ives-Griffiths.

Cafodd Michael Ives, 48 oed, a Kerry Ives, 46 oed, o Garden City eu dedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Cafwyd y ddau yn euog ar 15 Gorffennaf  o lofruddio Ethan yn eu cartref ar Ffordd Kingsley ym mis Awst 2021.

Cafwyd mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed, yn euog o achosi neu ganiatáu ei farwolaeth, ac o greulondeb i blant.

Bydd Michael Ives yn treulio o leiaf 23 mlynedd yn y carchar, gyda'i wraig Kerry Ives yn treulio o leiaf 17 mlynedd dan glo.

Fe gafodd Shannon Ives ei dedfrydu i 12 mlynedd am adael i'w mab farw, a pum mlynedd am greulondeb i blentyn a fydd yn cael ei dreulio yn y carchar yr un pryd.

Image
Lluniau yr heddlu
Michael Ives, 48 oed, a Kerry Ives, 46 oed

Dywed y barnwr mai Michael Ives oedd yn gyfrifol am y trais gwaethaf yn erbyn Ethan, ond fe gafodd Kerry Ives ei gweld yn taro'r plentyn hefyd.

Cafodd Michael Ives ei ddal ar gamera cylch cyfyng yn trin Ethan "fel doli neu fag o sbwriel" meddai'r barnwr.

Ychwanegodd bod mam Ethan "yn gwybod bod ei rhieni'n gallu cam-drin plant, oherwydd dyna oedd ei phrofiad hi wrth dyfu i fyny".

"Roedd Shannon yn gwybod nad oedd Ethan yn ddiogel gyda'i rhieni," meddai.

Wrth ddisgrifio'r ymosodiad a achosodd farwolaeth Ethan, dywed y barnwr: "Michael wnaeth o. Roedd Kerry yn eistedd wrth ei ymyl ar y soffa.

"Roedd yn weithred a fyddai'n dychryn unrhyw un a oedd yn sefyll yno'n gwylio."

Image
Shannon Ives
Shannon Ives, 28 oed

'Colled dorcalonnus'

Dywedodd Nicola Rees o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Dyma un o’r achosion mwyaf dychrynllyd i mi orfod delio ag o fel erlynydd.

"Roedd y dystiolaeth teledu cylch cyfyng, oedd yn dangos Ethan yn cael ei dargedu a’i gam-drin, yn dorcalonnus. Anaml yr ydych yn gweld gweithredoedd mor eithafol o greulondeb corfforol ac emosiynol.

"Defnyddiodd Gwasanaeth Erlyn y Goron dystiolaeth teledu cylch cyfyng o gartref yr Ives i ddangos i’r rheithgor sut roedd Ethan yn cael ei drin. Fe wnaeth y dystiolaeth arwain at yr euogfarnau hyn."

Ychwanegodd: "Dylai’r diffynyddion, oedd yn nain, yn daid ac yn rhiant i’r plentyn, fod wedi gofalu ac amddiffyn Ethan, ond ni wnaethant hynny.

"Rydym yn cydymdeimlo â thad a theulu Ethan sydd wedi dioddef colled dorcalonnus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.