Cyhoeddi enw dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad â fan Tesco ym Mangor

Stryd y Garth

Mae enw dynes 79 oed a fu farw ar ôl cael ei tharo gan fan archfarchnad Tesco ym Mangor wedi cael ei gyhoeddi. 

Bu farw Susan Margaret Hofsteed yn y digwyddiad ar Allt y Garth yn y ddinas ddydd Llun. 

Cafodd gyrrwr y fan, dyn 33 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Mae wedi ei ryddhau tra bod ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad yn parhau.

Cafodd cwest i farwolaeth Mrs Hofsteed ei agor a'i ohirio yng Nghaernarfon fore dydd Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.