Penodi'r fenyw gyntaf erioed yn Archesgob Caergaint
Mae'r Fonesig Sarah Mullally wedi ei hethol yn Archesgob Caergaint.
Y Fonesig Mullally yw'r fenyw gyntaf mewn hanes i gael ei phenodi yn y rôl, ac fe fydd yn arwain Eglwys Loegr.
Yn gyn bennaeth nyrsio dros Loegr, mae’r Fonesig Mullally wedi ei phenodi'n ddarpar Archesgob newydd, cyn i’r penodiad gael ei gadarnhau yn swyddogol mewn seremoni yng Nghadeirlan Caergaint fis Ionawr nesaf.
Hi fydd y 106ed Archesgob dros Gaergaint.
Mae’r rôl wedi bod yn wag ers bron i flwyddyn ar ôl i Justin Welby gyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo ar ôl methiannau yn y modd y deliodd â sgandal cam-drin plant o fewn Eglwys Loegr.
Archesgob Efrog, Stephen Cottrell, sydd wedi bod yn gyfrifol am y mwyafrif o gyfrifoldebau’r swydd dros y cyfnod, ac roedd yn rhan o’r corff oedd yn pleidleisio dros bwy fyddai’n olynu Mr Welby.
Fe wnaeth Comisiwn Enwebiadau’r Goron gytuno ar benodiad Ms Mullally gyda mwyafrif o ddwy ran o dair.
Yn ôl traddodiad, fe fydd ei henw yn cael ei roi i’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer, cyn iddo ei anfon ymlaen i’r Brenin Charles.
Mae’r Fonesig Sarah wedi bod yn rhan o’r Eglwys ers blynyddoedd, ac fe gafodd ei phenodi’n Esgob Llundain yn 2018 – y fenyw gyntaf i fod yn y swydd.
Penderfynodd Mr Welby yn Nhachwedd 2024 nad oedd modd iddo barhau fel Archesgob Caergaint.
Daeth ei ymddiswyddiad ar ôl i adolygiad damniol gael ei gyhoeddi i ymddygiad y bargyfreithiwr John Smyth, oedd wedi ei gyhuddo o gam-drin cannoedd o fechgyn ifanc dros gyfnod o ddegawdau.
Fe wnaeth yr adolygiad ddatgelu bod Smyth, bargyfreithiwr oedd yn gysylltiedig ag Eglwys Loegr, wedi cam-drin hyd at 130 o fechgyn mewn tair gwlad yn yr 1980au a'r 1990au.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad y gallai Smyth fod wedi wynebu cyfiawnder pe bai Justin Welby wedi rhoi gwybod i'r heddlu yn swyddogol yn 2013.