Ymosodiad Manceinion: Cyhoeddi enwau dau ddyn lleol gafodd eu lladd

Manceinion

Mae Heddlu Manceinion wedi cyhoeddi enwau'r ddau ddyn gafodd eu lladd mewn ymosodiad ger synagog yn y ddinas ddydd Iau.

Roedd Adrian Daulby yn 53 oed a Melvin Cravitz yn 66 oed. Roedd y ddau'n dod o ardal Crumpsall yn y ddinas.

Mae tri o bobl yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Cafodd y dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ei saethu'n farw gan heddlu arfog tu allan i synagog Heaton Park yn y ddinas.

Nos Iau cafodd ei enwi gan yr heddlu. Roedd Jihad Al-Shamie yn 35 oed ac wedi cyrraedd Prydain pan yn blentyn ifanc, gan dderbyn dinasyddiaeth Brydeinig yn 2006.

Mae tri o bobl wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

'Ton o gasineb'

Mae Prif Rabi'r DU wedi disgrifio'r ymosodiad terfysgol ger synagog ym Manceinion ddydd Iau fel canlyniad "ton ddi-baid o gasineb at Iddewon."

Wrth ymateb i'r ymosodiad, dywedodd y Prif Rabi Syr Ephraim Mirvis ei fod yn ganlyniad trasig” “ton ddi-baid o gasineb Iddewon ar ein strydoedd, ein campysau, ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn mannau eraill”.

Ychwanegodd: “Dyma’r diwrnod yr oeddem yn gobeithio na fyddem byth yn ei weld, ond yr oeddem yn gwybod yn ddwfn y byddai’n dod.”

Bydd swyddogion heddlu ychwanegol yn cael eu defnyddio ledled Manceinion i dawelu ofnau yn dilyn yr ymosodiadau dros y dyddiau nesaf.

Fe fydd presenoldeb amlwg yr heddlu i'w weld yng Ngogledd Manceinion, Bury, a Salford, o fewn cymunedau Iddewig, ac o amgylch synagogau.

Bydd mwy o ymweliadau gan swyddogion â mannau addoli lleol hefyd.

Bydd cynlluniau pellach yn cael eu datblygu drwy gydol y dydd meddai Heddlu Manceinion - gan gynnwys nos Wener a'r penwythnos.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.