Caniatáu cynllun i godi un o'r adeiladau uchaf yng Nghymru

Twr newydd

Mae cynllun i adeiladu un o'r adeiladau uchaf yng Nghymru wedi cael caniatâd cynllunio.

Cymeradwyodd Cyngor Caerdydd gynlluniau mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio ddydd Iau ar gyfer adeiladu tŵr 30 llawr ar safle Llys Harlech yng nghanol y ddinas.

Mae'r adeilad yn leoliad i hen swyddfeydd sydd yn cael eu dymchwel ar hyn o bryd.

Fe fydd yr adeilad newydd yn cynnwys 340 o fflatiau.

Cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer y fflatiau gyntaf yn 2021 gydag adroddiadau cychwynnol yn awgrymu y gallai fod yn 35 llawr o uchder.

Roedd aelodau pwyllgor cynllunio'r cyngor yn ymddangos yn rhanedig eu barn am yr adeilad newydd, gydag un cynghorydd yn dweud ei fod yn edrych fel "dyluniad eithaf da" ac un arall yn dweud y gallai bod angen rhagor o waith datblygu ar y cynllun.

Lleisiodd y Cynghorydd Peter Wong ei siom ynghylch storfa i feiciau sydd yn y cynllun, a fydd yn darparu lle i 352 o feiciau. 

Fe nododd rai bryderon a godwyd yn flaenorol gan swyddogion y cyngor am y cynllun.

Mae dogfen gynllunio'r cyngor yn nodi bod rheolwr rheoli gwastraff y cyngor wedi dweud nad yw'r strategaeth gwastraff ac ailgylchu ar gyfer yr adeilad newydd yn bodloni safonau y cyngor.

Ar hyn o bryd, yr adeilad talaf yng Nghymru yw Tŵr Meridian yn Abertawe, sydd yn 107m o uchder.

Adeilad arall sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn Stryd Wood yng Nghaerdydd fydd yr talaf yng Nghymru ar ôl cael ei gwblhau.

Bydd yr adeilad 50 llawr yn cynnwys mwy na 500 o fflatiau ac yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod, atriwm, canolfan feiciau, a chaffi.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.