‘Hanesyddol’: Cynnal Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru am y tro cyntaf

Mirain Iwerydd / Aleighcia Scott

Mae’r Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru cyntaf erioed yn adlewyrchiad o “ba mor iach" yw'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru, yn ôl un o gyflwynwyr y gwobrau.

Fe fydd Mirain Iwerydd, cyflwynydd gyda Heno a BBC Radio Cymru yn arwain y gwobrau ddydd Sadwrn gyda'r cerddor hip hop Tumi Williams, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Dyma’r tro cyntaf i’r gwobrau, sydd wedi eu noddi gan y Fonesig Shirley Bassey, gael eu cynnal.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mirain: “Fi di cyflwyno gwobrau unwaith o’r blaen, ond fi erioed di cyflwyno rhywbeth lle mae fe’n teimlo’n hanesyddol, fel rhyw fath o gam i mewn i’r dyfodol.

“Mae e mor bwysig bo fi’n neud y mwyaf o’r cyfle a bod y noson yn llifo’n dda a’n esmwyth, just i neud iawn i’r artistiaid sy’n cael eu clodfori a’u gwobrwyo ar y noson, a bob dim mae’r noson yn sefyll am.”

Ymhlith y cerddorion sydd wedi eu henwebu mae’r rapwyr Sage Todz, Mace the Great a Lemfreck a’r cantorion, Kizzy Crawford, Lily Beau a Seraphyre.

Hefyd wedi derbyn dau enwebiad, ar gyfer gwobrau'r Gân Cymraeg Orau a’r Gân Reggae Orau, mae’r cyfansoddwr ac un o feirniaid y gyfres deledu, Y Llais, Aleigchia Scott.

Image
Aleighcia Scott
Mae Aleighcia Scott wedi derbyn dau enwebiad am ei chân, 'Dod o'r Galon'

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod yn “edrych ymlaen yn fawr” at y digwyddiad yn y brifddinas.

“Mae lot o musicians ardderchog i ddathlu yng Nghymru, so fi’n teimlo’n mor cyffrous am gael nomination am y ddwy wobr. Dwi methu credu e, fi mor hapus.

“Dwi wedi bod yn siarad Cymraeg am dair blynedd nawr, a mae’n ardderchog i fi gael cân fi’n sgwennu’n Cymraeg nominated mewn dwy iaith.”

Fe ychwanegodd ei bod yn “bwysig” cydnabod cyfraniad y gymuned ddu yng Nghymru.

“Mae Cymru yn gartref i un o’r cymunedau du cyntaf yn Ewrop ac weithiau di pobl ddim yn gwybod hyn, a mae mor bwysig i ddathlu hyn a dathlu cerddoriaeth o Gymru.

“Mae Cymru i bawb a mae mor bwysig dathlu hyn, ac i gael y gwobrau hefyd.

“Fi methu aros i dathlu pawb, dathlu ein cymuned yn Cymru, a gweld y style fydd yna gan pawb a clywed y cerddoriaeth.”

‘Egin rili cyffrous'

Ymhlith y gwobrau fydd yn cael eu rhoi yn y seremoni bydd gwobrau unigol ar gyfer y caneuon Rap/Hip Hop/Grime, Reggae, Afrobeats, Gospel ac R&B/Soul gorau.

Ychwanegodd Mirain: “Mae’r holl genres sydd yn rhan o’r gwobrau yn adlewyrchiad o ba mor gyfoethog y’n ni a ffodus yng Nghymru bod y genres yma’n bodoli.

“Er enghraifft, mae grime yn rhywbeth sydd mor nodweddiadol Prydeinig, a'r ffaith bod da ni hwnna yn frand anferth yn y Gymraeg, mae hwnna’ dweud cyfrolau am ba mor iach mae’r sin cerddoriaeth sydd ‘da ni’n Gymru.”

Gyda Gwobrau’r MOBOs Prydeinig wedi eu sefydlu 29 mlynedd yn ôl, y gobaith yw y gall y Gwobrau Cerddoriaeth Ddu Cymru – neu BWMAs – dyfu o nerth i nerth yn y dyfodol.

“Fi ddim yn meddwl bod 'na bwynt meddwl yn negyddol o gwbl a meddwl, ‘pam ma hyn wedi cymryd gymaint o amser?” medd Mirian.

“Mae’n rhaid i ni ymfalchïo yn y ffaith bod y cyfle yma wedi dod a bod pobl di gweithio’n rili galed, pobl fel Uzo ac Ify Iwoby a’r tîm trefnu.

Image
Mirain Iwerydd
Mirain Iwerydd

“Mae just rili angen edrych ar y positives a rili ymhyfrydu yn y ffaith bod y diwrnod wedi cyrraedd a bod e’n ddechrau i hanes gwobrau, a hanes y MOBOs Cymraeg mewn ffordd.

“Dechreuodd y Welsh Music Prize pymtheg mlynedd yn ôl ac edrych ar faint mae hwnna di tyfu.

“So mae’n egin rili cyffrous o hadyn bach sydd wedi cael ei blannu ers blynyddoedd.

“Ond mae just wedi angen yr amser iawn a’r bobl iawn i feithrin yr hedyn yma a’i dyfu’n rhywbeth rili pert a chyffrous.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.