Y Ceidwadwyr Cymreig yn 'fodlon gweithio' gyda Reform yn y Senedd

Y Byd yn ei Le
Paul Davies

Mae dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi galw Reform yn “fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol” - ond yn dweud y byddai’r blaid yn dal i gydweithio gyda nhw yn y Senedd petai’r cyfle’n dod wedi'r etholiad ym mis Mai.

Dywedodd Paul Davies y byddai Reform “yn fygythiad” ond y gallai’r Ceidwadwyr Cymreig weithio gyda nhw i gadw Llafur allan o lywodraeth yng Nghymru. 

Pan gafodd ei herio ar y syniad y gallai’r Ceidwadwyr gydweithio gyda phlaid maen nhw’n ei galw’n “fygythiad cenedlaethol”, dywedodd Mr Davies y byddai’r blaid yn “gweithio gydag unrhyw un er mwyn cael gwared ar y Blaid Lafur.”

Wrth siarad ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd Paul Davies: “Dwi’n meddwl y byddai Reform UK yn fygythiad i’n diogelwch cenedlaethol. 

"Rydyn ni wedi gweld Nigel Farage, er enghraifft, yn dweud bod Vladimir Putin yn foi da.”

Ond pan ofynnwyd iddo a fyddai’r Ceidwadwyr yn gweithio gyda Reform UK wedi etholiad y Senedd yn 2026, dywedodd:

“Mae Darren Millar wedi ei gwneud hi’n eitha’ clir ein bod ni’n fodlon gweithio gydag unrhyw un er mwyn cael gwared ar y Blaid Lafur, achos mae’r Blaid Lafur wedi methu pobl Cymru dros y 26 mlynedd dwetha.

“Mae’n siomedig bod arweinydd Plaid Cymru wedi diystyru gweithio gyda ni, oherwydd mae’n amlwg wedyn os ydych chi’n pleidleisio dros Blaid Cymru, chi’n mynd i gael y Blaid Lafur, oherwydd fydd gydag e neb arall i weithio gydag ond y Blaid Lafur.”
 
Ychwanegodd: “Dwi ddim eisiau gweithio gyda neb arall. Dwi eisiau gweld llywodraeth Geidwadol yma yng Nghymru, a dyna beth fyddwn ni’n gweithio tuag ato yn yr etholiad.”

Mewn arolwg barn diweddar gafodd ei wneud gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, 11% oedd y gefnogaeth i’r Ceidwadwyr ar gyfer etholiad y Senedd. 29% oedd y gefnogaeth i Reform UK, gyda Phlaid Cymru ar y brig o drwch blewyn ar 30%. 
 
Wrth ymateb i sylwadau Mr Davies, dywedodd llefarydd ar ran Reform: "Mae'r syniad bod 26 mlynedd o fethiant y Blaid Lafur yng Nghymru am gael ei ddatrys gan y Torïaid yn absẃrd. 
 
"Mae'r Blaid Geidwadol wedi caniatáu i fewnfudo cyfreithlon ac anghyfreithlon mewn i'r wlad fynd allan o reolaeth. 
 
"Dyna pam mae pobl yng Nghymru, o gadarnleoedd y Ceidwadwyr i berfeddwlad Llafur, nawr yn edrych at Reform." 
 
Gwyliwch Y Byd yn ei Le ar S4C, S4C a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.