'Duw a Dysgwyr': Cynnal gwasanaethau crefyddol ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd

Duw a Dysgwyr

Fe fydd gwasanaeth misol yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Bangor yn ystod yr hydref er mwyn cynnig cyfle i siaradwyr Cymraeg newydd i ddod i'r arfer â "geirfa grefyddol gyfoethog" sy’n rhan o wasanaethau eglwysig. 

Mae’r gwasanaeth 'Duw a Dysgwyr' yn gobeithio rhoi blas ar iaith nad yw'n cael ei dysgu yn aml mewn gwerslyfrau "ond sy’n hanfodol ar gyfer deall diwylliant a bywyd cymunedol Cymraeg" meddai'r trefnwyr.

Mae Elin Owen, Hwylusydd Iaith Gymraeg yn Esgobaeth Bangor, yn credu bod Duw a Dysgwyr yn ffordd o rannu ffydd wrth ddysgu, gan ddod â dysgwyr, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol ynghyd:

“Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfle bendigedig i ddysgwyr glywed a defnyddio Cymraeg mewn sefyllfa wirioneddol, gan brofi’r iaith a’r ffordd y’i defnyddir mewn addoliad. 

"Mae’n le cefnogol i feithrin hyder, cwrdd ag eraill, a rhannu ffydd gyda’n gilydd,” meddai.

Mae Duw a Dysgwyr wedi’i addasu i apelio at bob dysgwr bethbynnag yw eu lefel. 

Bydd geirfa allweddol a chanllawiau ynganiad ar gael i helpu dysgwyr i ddilyn y gwasanaethau.

Ar ôl y gwasanaeth, caiff dysgwyr eu gwahodd am ginio a sgwrs gyda Menter Iaith Bangor, lle gallant ymarfer eu sgiliau Cymraeg.

Bydd y gwasanaeth Duw a Dysgwyr nesaf ar ddydd Llun 6 Hydref am 12.30 yng Nghadeirlan Bangor.

Mae’r gwasanaeth yn rhan o ymrwymiad ehangach Esgobaeth Bangor i hyrwyddo’r Gymraeg.

Llun: Cadeirlan Bangor

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.