Storm Amy: Rhybuddion melyn am wynt i Gymru gyfan
Bydd rhybuddion melyn am wynt ar gyfer Cymru gyfan yn dod i rym yn ddiweddarach wrth i Storm Amy daro'r wlad.
Fe fydd rhybudd mewn grym yn ardaloedd o ogledd a gorllewin Cymru rhwng 15:00 ddydd Gwener a 23:59 ddydd Sadwrn, meddai'r Swyddfa Dywydd.
Yna am hanner nos, nos Sadwrn, bydd ail rybudd am wynt yn dod i rym yn effeithio ar weddill y wlad, a hynny tan 19.00 ddydd Sul.
Fe allai'r gwyntoedd godi i hyd at 70mya mewn rhai mannau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai’r storm achosi difrod i adeiladau ac effeithio ar gyflenwadau pŵer.
Ychwanegodd y gallai hefyd effeithio ar drafnidiaeth ac, mewn rhai achosion, beryglu bywyd.
Rhwng 15.00 ddydd Gwener a 23.59 ddydd Sadwrn, bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Powys
- Sir Benfro
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Sir Gaerfyrddin
- Wrecsam
- Ynys Môn
Yna rhwng 00.00 a 19.00 ddydd Sadwrn, bydd ail rybudd yn dod i rym i'r siroedd canlynol:
