Seren Keeping Up Appearances, y Fonesig Patricia Routledge, wedi marw

Patricia Routledge

Mae seren y gyfres deledu Keeping Up Appearances, y Fonesig Patricia Routledge, wedi marw yn 96 oed.

Dywedodd ei hasiant fore Gwener bod yr actores wedi marw'n "dawel yn ei chwsg" ac "wedi'i hamgylchynu gan gariad".

"Hyd yn oed yn 96 oed, ni wnaeth angerdd y Fonesig Patricia dros ei gwaith a chysylltu â chynulleidfaoedd byw fyth leihau, yn union fel mae cenedlaethau newydd o gynulleidfaoedd wedi parhau i ddod o hyd iddi trwy ei rolau ar y teledu," meddai ei hasiant mewn datganiad.

"Bydd yn cael ei cholli'n fawr gan y rhai sydd agosaf ati a'i hedmygwyr ymroddedig ledled y byd."

Roedd y Fonesig Patricia yn adnabyddus am chwarae rhan y cymeriad Hyacinth Bucket yn y sitcom BBC Keeping Up Appearances rhwng 1990 a 1995.

Ond cafodd yrfa ddisglair yn y theatr hefyd, gan ennill Gwobr Olivier am ei rôl fel yr Hen Foneddiges yn yr operetta Candide yn 1988, yn ogystal â Gwobr Tony am ei rhan fel Alice Challice yn Darling Of The Day yn 1968.

Cafodd ei anrhydeddu ym Mhalas Buckingham yn 2017, gan gael ei gwneud yn Fonesig Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwasanaethau i'r theatr.

Cafodd yr actores ei geni ym Mhenbedw yng Nglannau Mersi yn 1929 ac fe aeth ymlaen i astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Lerpwl.

Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol fe ymddangosodd mewn sioeau myfyrwyr cyn gwneud ei hymddangosiad proffesiynol cyntaf yn y Liverpool Playhouse.

 

 


 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.