Llafur Cymru yn dileu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol wedi llythyr cyfreithiol gan Reform UK
Mae Llafur Cymru wedi dileu cyfres o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl derbyn llythyr cyfreithiol ffurfiol gan Reform UK.
Awgrymodd y negeseuon fod ymgeisydd Reform yng Nghaerffili â chysylltiadau â Vladimir Putin — honiad sy'n cael ei wadu’n gryf gan y blaid.
Cyfeiriwyd hefyd at gyhuddiadau o lwgrwobrwyo yn ymwneud ag arweinydd blaenorol Reform UK yng Nghymru.
Datgelodd Newyddion S4C ddydd Iau bod Reform UK wedi cyflwyno llythyr cyfreithiol ffurfiol i Lafur Cymru, ac mae'r gwasanaeth ar ddeall fod y llythyr wedi’i gyflwyno o dan y Ddeddf Enllib a’r Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Ers cadarnhau eu bod wedi derbyn y llythyr, mae Llafur Cymru wedi tynnu’r negeseuon o’u cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a hynny “ar gais Reform UK”.
Mae’r Ddeddf Enllib yn diogelu unigolion rhag datganiadau ffug a all niweidio eu henw da, tra bod Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn gosod rheolau llym ar hawliadau ffug yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.
'Cwestiynau'
Cyfeiriodd y negeseuon at Nathan Gill, cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, sydd wedi cyfaddef iddo dderbyn taliadau i hyrwyddo safbwyntiau o blaid Rwsia tra’n gwasanaethu fel Aelod Seneddol Ewropeaidd.
Plediodd Gill, 52, o Langefni, yn euog i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK wrth Newyddion S4C fod Llafur Cymru wedi “colli eu gafael, colli pobl Cymru, a cholli’r ddadl—ac nad ydyn nhw’n dymuno cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth garw".
Mae llyfrgell hysbysebion Meta yn dangos fod Llafur wedi talu am dair hysbyseb yn honni neu’n awgrymu camymddwyn ar ran Llŷr Powell.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: “Er ein bod wedi dileu’r postiadau cyfryngau cymdeithasol ar gais Reform UK, mae cwestiynau’n parhau ynghylch pam y dewisodd Reform UK lefarydd dros Rwsia i fod yn eu harweinydd yng Nghymru.
“Ni fydd Llafur Cymru yn peidio â gofyn y cwestiynau hyn.”
Daw hyn wrth i’r isetholiad yng Nghaerffili nesáu, gyda’r diwrnod pleidleisio ar 23 Hydref.
Yr ymgeiswyr a gadarnhawyd yw Richard Tunnicliffe (Llafur Cymru), Lindsay Whittle (Plaid Cymru), Gareth Potter (Ceidwadwyr Cymreig), Llŷr Powell (Reform UK), Gareth Hughes (Plaid Werdd Cymru), Steven Aicheler (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Roger Quilliam (UKIP) ac Anthony Cook (Gwlad).