Cadeirlan Bangor: Ymgyrchwyr yn codi bron i £14,000 mewn ymgais i achub dwy swydd

Newyddion S4C
Cadeirlan Bangor

Mae ymgyrchwyr sydd yn gysylltiedig â Chadeirlan Bangor wedi codi bron i £14,000 mewn wythnos mewn ymgais i achub dwy swydd sydd dan fygythiad.

Ddechrau Medi, datgelodd Newyddion S4C bod pump a hanner o swyddi dan fygythiad o ganlyniad i "bwysau ariannol".

Daw wedi cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan a'r Esgobaeth, gydag adroddiadau o gamymddwyn arweiniodd at ymddeoliad sydyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Andy John, ddiwedd mis Mehefin. Does dim awgrym bod y cyn-Archesgob ei hun wedi camymddwyn.

Mae côr y Gadeirlan hefyd wedi eu gwahardd am gyfnod wedi iddyn nhw ganu cân o brotest a gadael gwasanaeth yn gynnar ddiwedd mis Awst.

Mewn ymgais i arbed dwy swydd rhan amser ar gyfer cantorion proffesiynol i gôr y Gadeirlan, mae cefnogwyr wedi codi miloedd o bunnoedd mewn wythnos.

Dywedodd Simon Ogdon, aelod o'r côr gychwynodd yr ymgyrch mai'r bwriad oedd achub y swyddi am flwyddyn o leiaf.

"Ry'n ni'n ymwybodol o'r sefyllfa ariannol heriol sydd yn wynebu'r Gadeirlan a'r effaith allai hynny ei gael ar yr adran gerddorol," dywedodd wrth Newyddion S4C.

Gobaith Mr Ogdon yw y bydd yr arian yn cael ei dderbyn gan y cabidwl er mae'n pwysleisio nad ydyn nhw wedii cael ymateb ffurfiol o ran derbyn y rhodd hyd yn hyn.

Ymhlith y rhai sydd wedi cefnogi'r ymgyrch mae'r canwr Aled Jones.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd e: "Fel plentyn, cefais fy magu yn canu yng Nghadeirlan Bangor, safle Cadeirlanol hynaf Prydain, sydd yn dathlu 1500 mlwyddiant eleni.

"Mae'r côr yn wynebu diswyddiadau sylweddol fyddai'n golygu na all weithredu fel y bu yn y gorffennol."

"Mae arian yn cael ei godi i gadw cantorion lleyg y côr yn eu lle eleni a chynnal rôl llawn amser y Cyfarwyddwr Cerdd (gall datrysiadau hir-dymor gael eu canfod wedi i'r ariannu cychwynnol yma gael ei sicrhau.

"Plis ystyriwch roi er mwyn arbed y rhan pwysig yma o dreftadaeth cerddorol."

'Cymhlethdod'

Ers cychwyn codi arian ddydd Sadwrn diwethaf, mae'r ymgyrchwyr wedi cyrraedd eu nod o godi £13,500 - maen nhw'n dweud byddai hynny'n ddigon i arbed dwy swydd rhan amser, ac y gallai grantiau gyfrannu arian ychwanegol i weithgareddau cerddorol y Gadeirlan.

Mae Newyddion S4C yn deall bod Cabidwl y Gadeirlan wedi cwrdd a phenderfynu p'run ai ydyn nhw am dderbyn yr arian, ac ar ddiswyddiadau posibl yn y Gadeirlan.

Doedden nhw ddim am wneud unrhyw sylw ar ddiswyddiadau ar hyn o bryd.

Fe wnaeth llefarydd anfon ebost gan Ddeon newydd y Gadeirlan, Dr Manon Ceridwen James, at aelodau'r côr.

Yn yr ebost yna, mae'n cynnig cyfle i aelodau wisgo'u hurddwisgoedd a chanu emynau yng ngwasanaeth y cynhaeaf ddydd Sul yma.

"Gallwn gael sgwrs ddydd Sul am sut mae symud ymlaen," dywedodd wrth aelodau.

"Gyda chymhlethdod y sefyllfa a chryfder teimladau, byddaf yn parchu unrhyw benderfyniadau y gwnewch chi am ddydd Sul a'r wythnosau nesaf, a bydd hi'n bwysig i ni gyfathrebu yn agored ac yn onest."

Llun dan drwydded Comin Creadigol 4.0.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.