Terfyn pwysau newydd i Bont y Borth ar ôl 'cyngor brys' gan beirianwyr
Mae terfyn pwysau newydd wedi cael ei gyflwyno i Bont y Borth ar ôl "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol.
Fe fydd y bont bellach ar agor i geir â therfyn pwysau newydd o dair tunnell, a hynny wedi argymhelliad gn beirnianwyr.
Ni fydd cerbydau mwy yn cael croesi, ac fe fydd yr heddlu wrth y bont i sicrhau fod pobl yn cydymffurfio.
Daw'r penderfyniad wedi gwaith ymchwilio o dan y bont a ddangosodd fod angen ailosod rhai o'r bolltau ar drawstiau o dan y bont.
Mae peirianwyr wedi argymell bod y bont yn ddiogel i draffig ei defnyddio gyda'r terfyn pwysau newydd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Y cyngor brys gan beirianwyr strwythurol yw y dylai Pont Menai gael terfyn pwysau newydd.
"Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol, ond mae'n rhaid i ni wrando ar gyngor peirianwyr."
Ychwanegodd Mr Skates: "Rwy'n gwybod y bydd hyn yn achosi pryder arbennig heno gyda dyfodiad Storm Amy a'r effaith bosibl y gallai hyn ei chael ar Bont Britannia.
"Mae trefniadau ar waith i gerbydau brys groesi pe bai'r Britannia ar gau oherwydd gwyntoedd cryfion.
"Byddwn yn parhau i bwyso ar Briffyrdd y DU A55 am ddatrysiad cynnar i'r sefyllfa hon sy'n peri pryder i mi a llawer o bobl eraill."
Bydd y terfyn pwysau yn aros mewn grym nes bod ymchwiliadau pellach wedi digwydd.
Gwanwyn 2026
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mai na fydd gwaith cynnal a chadw sylweddol ar y bont yn dod i ben tan y gwanwyn 2026 - y flwyddyn pan fydd y bont yn dathlu ei 200 mlwyddiant.
Roedd y gwaith cynnal a chadw newydd, sy'n cynnwys ailbeintio'r bont i gyd, wedi'i gynllunio i ddechrau ddwy flynedd yn ôl ond darganfuwyd diffyg posibl gyda'r hongwyr a olygodd y bu'n rhaid rhoi rhai newydd yn eu lle ar frys.
Cwblhawyd cam cyntaf y gwaith fis Hydref diwethaf.
Mae'r bont yn agosáu at ei 200 mlwyddiant yn 2026 ac mae angen gwaith cynnal a chadw sylweddol arni i sicrhau ei bod yn parhau i weithredu'n ddiogel am flynyddoedd lawer i ddod meddai Mr Skates.
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener y byddai diweddariadau pellach dros y dyddiau nesaf gan gynnwys diweddariadau ar yr effaith ar y rhaglen waith ar y bont yn y tymor hir.