'Mwy na chlwb rygbi': Y Scarlets werth £17.3m i'r economi medd Cyngor Sir Gâr

Scarlets

Mae rhanbarth rygbi y Scarlets werth £17.3m i'r economi leol medd Cyngor Sir Gâr.

Mae'r cyngor wedi cyflwyno asesiad ar effaith economaidd a chymdeithasol y tîm o Lanelli i Undeb Rygbi Cymru wrth iddyn nhw benderfynu ar ddyfodol timoedd rhanbarthol Cymru.

Dywedodd y Cyngor bod yr asesiad wedi ei gyflwyno fel rhan o broses ymgynghori'r undeb ar ddyfodol y gêm broffesiynol.

Fe ddaeth yr ymgynghoriad i ben ddiwedd mis Medi ac mae disgwyl cyhoeddiad erbyn diwedd mis Hydref.

Dydd Iau dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi'r undeb, Dave Reddin, bod cynllun Undeb Rygbi Cymru i leihau nifer y clybiau proffesiynol o bedwar i ddau yn parhau dan ystyriaeth.

Image
Gorymdaith Scarlets
Cannoedd o gefnogwyr y Scarlets yn gorymdeithio yn Llanelli ychydig oriau cyn gêm agoriadol y tymor. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cyhoeddi adroddiad ddydd Gwener sydd medden nhw yn cynnig "golwg annibynnol ar gyfraniad enfawr y Scarlets i Lanelli, Sir Gaerfyrddin gyfan a thu hwnt".

Yn yr adroddiad mae cyfeiriad at y rhanbarth fel yr unig glwb rygbi proffesiynol yng Nghymru sydd mewn ardal lle mae'r rhan fwyaf yn siarad Cymraeg. 

Mae'r adroddiad yn nodi bod y Scarlets yn cynhyrchu "£17.3 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros yn 2024/25, gan gefnogi 336 o swyddi ledled Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth".

Dywedodd Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Darren Price bod Scarlets yn "llawer mwy na chlwb rygbi."

"Maen nhw'n ysgogi twf economaidd, yn sylfaen i lesiant cymuned, ac yn llysgennad balch dros ddiwylliant a gwerthoedd ein rhanbarth," meddai.

"Mae eu presenoldeb a'u llwyddiant parhaus yn hanfodol nid yn unig i Sir Gaerfyrddin, ond i ddyfodol rygbi rhanbarthol a'r rhai sy'n rhan o gymunedau'r rhanbarth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.