Dyfalu y bydd Nigel Farage yn cyhoeddi enw arweinydd Reform yng Nghymru ddydd Iau
Mae dyfalu y bydd arweinydd Reform UK Nigel Farage yn ymweld â Chasnewydd ddydd Iau gyda disgwyl cyhoeddiad posib ynghylch pwy fydd arweinydd y blaid yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Jason O'Connell ar gyfer Reform UK, sydd yn aelod o Gyngor Torfaen ddydd Gwener diwethaf y bydd enw arweinydd y blaid yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi'n "fuan iawn."
Ychwanegodd fod ei blaid wedi bod yn "drylwyr iawn yn ein hasesiad o bobl all fod yn arweinydd ac mae disgwyl y cyhoeddiad hwnnw yn fuan iawn".
Mae disgwyl i Nigel Farage gynnal cynhadledd i'r wasg yng Nghasnewydd ddydd Iau lle y bydd yn cyhoeddi "ei gynlluniau ar gyfer Cymru".
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Confensiwn Ryngwladol (ICC).
Mae manylion y digwyddiad yn dweud: "Gyda llai na 100 diwrnod i fynd tan etholiadau Cymru, dyma eich cyfle i glywed yn uniongyrchol gan Nigel Farage ar gynlluniau Reform UK ar gyfer Cymru.
"Fe fydd yr etholiadau hyn yn frwydr agored rhwng Reform a Plaid, ac fe fyddwn ni angen pob aelod a phob cefnogwr i fynd â'r frwydr honno i'r Senedd."
Mae manylion y digwyddiad hefyd yn nodi mai dim ond aelodau Reform UK sydd yn gymwys i fynychu.