Awdur o Gymru y cyntaf i gael enwebiadau am ddau lyfr yng ngwobrau Waterstones

Huw Aaron
Huw Aaron

Awdur o Gymru yw'r cyntaf erioed i gael ei enwebu ar gyfer dau lyfr gwahanol yng ngwobrau llyfrau plant Waterstones.

Mae’r awdur a’r darlunydd Huw Aaron wedi cael ei enwebu am ei nofel Unfairies yn y categori darllenwyr iau, yn ogystal ag am Sleep Tight, Disgusting Blob yn y categori llyfrau darluniadol.

Dywedodd Waterstones mai dyma’r tro cyntaf yn hanes y gwobrau i awdur gael ei enwebu ar gyfer dau deitl ar draws dau gategori.

Mae rhestrau byr y gwobrau yn cynnwys 12 llyfr ar draws tair categori, a ddewiswyd gan werthwyr llyfrau Waterstones gyda barn gan ddarllenwyr ifanc mewn ysgolion sy’n cymryd rhan.

Mae un enillydd o bob categori yn cael ei ddewis cyn cystadlu am deitl cyffredinol enillydd gwobr llyfrau plant Waterstones 2026.

Yn ymuno gyda Huw Aaron yn y categori darllenwyr iau mae Janeen Hayat gydag Evie And Maryam’s Family Tree, Ashley Thorpe gyda'i antur ffantasi Spirit Warriors a Brogen Murphy gyda'i lyfr antur amgylcheddol Wildlands.

'Awduron mwyaf cyffrous'

Dywedodd Bea Carvalho, pennaeth llyfrau Waterstones: “Ers dros 20 mlynedd mae gwobr llyfrau plant Waterstones wedi ceisio sbarduno a chynnal cariad at ddarllen mewn plant a phobl ifanc drwy roi sylw i’r awduron a’r darlunwyr mwyaf cyffrous sy’n dod i’r amlwg.

“Yn y flwyddyn ddarllen genedlaethol, mae’r ymdrech hon yn teimlo’n arbennig o effeithiol, ac mae ein gwerthwyr llyfrau wedi dewis rhestr fer o 12 llyfr rhagorol sy’n dathlu’r llawenydd pur, y dihangfa a’r rhyfeddod sydd i’w cael mewn llyfrau plant heddiw.

“Mae hon yn rhestr sy’n blaenoriaethu darllen er mwyn pleser, gyda llyfrau lluniau’n llawn swyn y bydd oedolion wrth eu bodd yn eu darllen i rai bach dro ar ôl tro, a nofelau sydd wedi’u creu i gael eu pasio’n frwdfrydig o gwmpas meysydd chwarae a grwpiau cyfeillgarwch.

“Mae rhywbeth i ddarllenwyr ifanc o bob grŵp oedran a chwaeth ddarllen ei fwynhau yma: allwn ni ddim aros i ddathlu ac argymell pob un o’r 12 stori hyn drwy gydol y flwyddyn ddarllen genedlaethol a thu hwnt.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.