Canolfan ganser newydd Felindre: 'Costau sylweddol ond sylfaen digon cadarn'

felindre.png

Mae 'costau sylweddol' ond 'sylfaen digon cadarn' ar gyfer penderfyniadau diweddar am ganolfan ganser newydd Felindre yng Nghaerdydd yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r adroddiad gan Archwilio Cymru yn canolbwyntio ar benderfyniadau a gafodd eu gwneud wedi i'r cynllun i adeiladu'r ganolfan ganser gael ei gymeradwyo yn 2021.

Ym mis Mawrth 2024, fe gytunodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ar gytundeb hirdymor gyda chonsortiwm preifat, ACORN, i ddylunio, adeiladu, ariannu a chynnal a chadw canolfan ganser newydd Felindre yn yr Eglwys Newydd.

Mae'r ganolfan yn gwasanaethu tua 1.7 miliwn o bobl, ond nid yw'r ganolfan bresennol yn cael ei hystyried yn addas bellach. 

Fe wnaeth yr adroddiad edrych i weld a all yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cymru ddangos "sylfaen gadarn ar gyfer penderfyniadau allweddol" sydd wedi ei gwneud am y ganolfan newydd hyd yma. 

Yn ôl yr adroddiad, mae'r costau sylweddol hirdymor yn golygu bod "sylfaen gadarn ar gyfer penderfyniadau yn bwysicach byth."

Costau

Y gost fwyaf arwyddocaol yw'r cytundeb Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) Llywodraeth Cymru gydag ACORN (cytundeb y ganolfan newydd), gyda disgwyl y bydd yn costio £885 miliwn dros 25 mlynedd. 

Yn ogystal â’r cytundeb ar gyfer y ganolfan newydd, mae costau eraill wrth weithredu a rheoli’r ganolfan newydd, gyda disgwyl i'r costau hyn gostio o leiaf £765 miliwn dros 25 mlynedd.

Ond dywed yr adroddiad eu bod yn amcangyfrif y byddai parhau i reoli a chynnal a chadw'r ganolfan bresennol wedi costio o leiaf £600 miliwn dros 25 mlynedd. 

Ychwanegodd yr adroddiad na fyddai hyn wedi "sicrhau unrhyw rai o’r buddion ychwanegol y mae’r ganolfan newydd yn eu cynnig."

Trefniadau llywodraethu

Mae'r adroddiad yn nodi fod trefniadau llywodraethu wedi eu gwneud yn "briodol", a bod yr Ymddiriedolaeth wedi dilyn prosesau achos busnes a rheoli prosiectau sefydledig yn "ddigon boddhaol".

Er fod yr adroddiad yn nodi meysydd i'w gwella, ychwanegodd nad ydynt yn credu eu bod yn "tanseilio uniondeb cyffredinol y penderfyniadau terfynol i fwrw ymlaen â’r contract ar gyfer y ganolfan newydd."

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Y cyrff dan sylw sydd wedi bod yn gyfrifol am y penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud am brosiect y ganolfan newydd, gan ystyried y costau cyffredinol a’r risgiau cynhenid sy’n ymwneud â chontractau cyllid preifat hirdymor.

"Er fy mod yn cydnabod bod yna rai sy’n parhau i wrthwynebu’r prosiect, mae’r prosesau a ddilynwyd gan yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod a archwiliwyd gennym wedi darparu sylfaen digon cadarn, ar y cyfan, ar gyfer y penderfyniadau hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.