Caerfyrddin: Cyhuddo dyn 57 oed o geisio llofruddio
Mae dyn 57 oed wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio wedi digwyddiad yng Nghaerfyrddin ddydd Iau diwethaf.
Mae James McKenna hefyd wedi ei gyhuddo o fod â llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus a stelcian yn dilyn y digwyddiad ym Mharc Caerfyrddin ar 29 Ionawr.
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau.
Fe gafodd Mr McKenna ei arestio nos Lun yn dilyn ymgais honedig i lofruddio menyw mewn parc yng Nghaerfyrddin.
Mewn datganiad nos Lun, dywedodd Ditectif Brif Uwcharolygydd Heddlu Dyfed-Powys, Ross Evans: “Hoffem ddiolch i’r cyfryngau a’n cymunedau am eu cymorth gyda’n hymchwiliad hyd yma.”
Roedd y llu wedi cyhoeddi yn gynharach ddydd Llun eu bod yn parhau i chwilio am James McKenna.
Dywedodd swyddogion eu bod wedi o hyd i gyllell a bag cefn fel rhan o'u hymchwiliad.
Nid yw'r fenyw a ddioddefodd yr ymosodiad wedi'i hanafu'n ddifrifol ac mae disgwyl iddi wella'n llwyr, yn ôl yr heddlu.
