'Ar y dibyn': Her ymarfer corff am 18 awr ar ôl colli ewythr i hunanladdiad
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad
Mae dyn o Ferthyr a “gyrhaeddodd y dibyn” yn benderfynol o gyflawni her ymarfer corff 18 awr o hyd wedi iddo golli ei ewythr i hunanladdiad.
Ar 15 Chwefror fe fydd Jacob Addis, sy’n hyfforddwr personol 24 oed, yn bwriadu llosgi 10,000 o galorïau mewn un diwrnod fel rhan o her i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl.
Fe gollodd Jacob ei ewythr Dean Williams, oedd yn 50 oed, i hunanladdiad yn 2019.
Dywedodd bod hynny wedi cael “effaith fawr” arno gan arwain at flynyddoedd o frwydro gydag iechyd meddwl ei hun.
Ond fel dyn ifanc, doedd Jacob ddim yn teimlo’n gyfforddus i siarad am ei deimladau, ac yntau’n “ofni” cael ei feirniadu am fod yn “wan.”
A hithau’n ddiwrnod i drafod problemau iechyd meddwl ddydd Iau, sef Diwrnod Amser i Siarad, mae’n gobeithio y bydd yn gallu ysgogi pobl eraill i fod yn agored am eu teimladau.
“O’n i wedi cyrraedd y dibyn, o’n i methu gweld unrhyw bwrpas.
“O’n i’n teimlo fel doedd gen i ddim gwerth i unrhyw un nac unrhyw beth. Doeddwn i ddim yn cael unrhyw foddhad wrth wneud pethau.
“Ac roedd y rhain i gyd yn bethau o’n i’n ofn trafod achos fel dyn, dyn ifanc, roedd e’n gwneud i fi teimlo’n wan.
“Roeddwn i’n ofn o’r feirniadaeth a fyddai’n dod gyda hwnna.”
Paratoi
Bydd Jacob bellach yn cyflawni her ble y byddai’n ymarfer corff yn y gampfa lle mae’n gweithio, Flexi-Fit ym Merthyr Tudful, nes iddo lwyddo i losgi 10,000 o galorïau.
Fe fyddai’n gwneud hynny er cof am ei ewythr gan godi ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl, yn ogystal â’r heriau y mae pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad yn eu hwynebu.
Mae Jacob yn rhagweld y byddai’r her yn cymryd rhwng 16 ac 18 awr i’w gyflawni.
Yn ystod y cyfnod yna fe fydd yn rhedeg ac yn ymarfer corff ar beiriannau rhwyfo, sgïo a beicio gan weithio am dair munud a gorffwys am funud, cyn cael brêc 10 munud o hyd pob awr.
“Dwi wedi bod yn ymarfer. Dwi wedi hyfforddi am tua phedwar neu pum awr yn gwneud yr un math o bethau a fyddai’n ‘neud ar y diwrnod er mwyn gweithio mas faint o galorïau dwi’n llosgi pob awr.
“Felly byddai’n cychwyn am 06.00 gan obeithio gorffen rhwng 22.00 a hanner nos,” meddai.
Mae eisoes wedi trechu ei darged o godi dros £1,000 ar gyfer elusen Mind Cymru, ac mae’n gobeithio codi hyd yn oed yn fwy ar y dydd.
'Model rôl'
Drwy gyflawni’r her, mae Jacob yn gobeithio fod yn “model rôl” i ddynion ifanc eraill sydd yn wynebu cyfnod heriol.
Mae eisiau’r genhedlaeth nesaf ddeall nad oes rhaid teimlo cywilydd am dderbyn cymorth er mwyn mynd i’r afael â’u problemau.
“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli jyst trwy gael help, pe bai drwy ffrindiau, teulu, neu gwnselydd fel gwnes i, dydych chi ddim yn sylweddoli faint y gallai hwnna eich helpu i chi.”
Fel rhan o Ddiwrnod Amser i Siarad mae elusennau yn annog pobl i gymryd rhan mewn sgwrs genedlaethol agored er mwyn trafod eu profiadau gyda’u hiechyd meddwl.
Dywedodd Julian John, Cyfarwyddwr Cyswllt Gweithrediadau Mind Cymru: “Mae’n gallu bod yn anodd siarad am ein profiadau gyda’r bobl sydd agosaf atom ni, ond yn aml dyna yw’r cam cyntaf at deimlo’n well.”
"Mae’n gallu bod yn werthfawr dros ben cael cymorth ac anogaeth gan bobl sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg, neu ddod o hyd i’r foment iawn i fynegi ein teimladau i rywun sy’n gallu ac yn fodlon gwrando."
Mae’r elusen yn annog pobl i ofyn cwestiynau a gwrando ar bryderon pobl o’i gwmpas heb iddynt deimlo fel bod rhaid datrys pob dim.
Dywedodd Jacob: “Y neges sydd gen i yw: os ydych chi’n teimlo’n ansicr am unrhyw un, cysylltwch gyda nhw.
“Peidiwch â chymryd pethau’n ganiataol, cysylltwch gydag eich ffrindiau.”
Os ydy'r erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan S4C Cymorth.