Keir Starmer yn ymddiheuro i ddioddefwyr Jeffrey Epstein ar ôl 'coelio celwyddau Mandelson'

Keir Starmer yn ymddiheuro i ddioddefwyr Jeffrey Epstein ar ôl 'coelio celwyddau Mandelson'

Mae Syr Keir Starmer wedi ymddiheuro i ddioddefwyr Jeffrey Epstein, gan ddweud ei fod yn “ddrwg ganddo am gredu celwyddau (Peter) Mandelson a’i benodi’n” llysgennad Prydain i America, wrth iddo wynebu pwysau gwleidyddol cynyddol dros y sgandal.

Mynnodd y Prif Weinidog “nad oedd yr un ohonom yn gwybod dyfnder tywyllwch” perthynas yr Arglwydd Peter Mandelson â’r troseddwr rhyw pan gafodd ei ddewis ar gyfer y swydd.

Yng nghanol ansicrwydd cynyddol ynghylch ei ddyfodol gwleidyddol, dywedodd Syr Keir ei fod yn rhannu “dicter a rhwystredigaeth” cydweithwyr am yr hyn ddigwyddodd ond mynodd y byddai'n parhau fel Prif Weinidog.

Mae wedi wynebu pwysau gan ASau Llafur sydd yn gandryll am ei benderfyniad i roi’r swydd ddiplomyddol i’r arglwydd, gan ddweud: “Cefais fy ethol ar fandad yn 2024 i newid y wlad er gwell” a “dyna rwy’n bwriadu ei wneud”.

Ddydd Mercher, fe ddywedodd Syr Keir Starmer iddo fod yn ymwybodol o berthynas Mandelson gydag Epstein pan gafodd ei benodi i’w rôl.

Ond dywedodd Syr Keir fod Mandelson wedi dweud “sawl celwydd parhaus” ynglŷn â pha mor agos oedd y perthynas honno.

Mae Gweinidog Cabinet yn Llywodraeth y DU, Steve Reed wedi dweud ddydd Iau mai’r broses fetio oedd "ar fai" ym mhenodiad yr Arglwydd Mandelson.

Dywedodd bod y broses honno wedi methu dod â’r berthynas rhwng y ddau i’r amlwg gan ddweud nad oedd Starmer ddim ond yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail y wybodaeth oedd ar gael iddo ar y pryd.

Fe wnaeth yr Arglwydd Peter Mandelson ildio ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Mercher.

Mae hefyd wedi ymddiswyddo o’r Blaid Lafur, wedi gorfod ildio ei aelodaeth o'r Cyfrin Gyngor Prydain, ac yn wynebu ymchwiliad troseddol ar ôl i ddogfennau yn ymwneud ag Epstein gael eu rhyddhau i’r cyhoedd. 

Bydd dogfennau ar benodiad yr Arglwydd Mandelson yn llysgennad i'r Unol Daleithiau yn cael eu rhyddhau gan y Llywodraeth ar ôl i arweinydd y Torïaid, Kemi Badenoch, ddefnyddio proses seneddol i fynnu rhyddhau'r dogfennau.

Pwysau o fewn ei blaid

Mae Syr Keir bellach yn wynebu pwysau o fewn y Blaid Lafur, gan gynnwys gan ei gyn-ddirprwy Angela Rayner.

Roedd hynny’n ymwneud ag ymdrechion Downing Street i beidio â chyhoeddi rhai dogfennau yn gysylltiedig â phenodiad yr Arglwydd Mandelson ddydd Mercher, a hynny ar y sail eu bod yn “niweidiol i ddiogelwch cenedlaethol y DU neu gysylltiadau rhyngwladol.”

Mae'r Ceidwadwyr wedi defnyddio mecanwaith hynafol sy'n cael ei hadnabod fel 'humble address motion' er mwyn sicrhau bod y dogfennau ar benodiad yr Arglwydd Mandelson yn cael eu rhyddhau.

Mae'n cynnwys cais i orfodi cyhoeddi e-byst rhwng pennaeth staff y Prif Weinidog a'r Arglwydd Mandelson a'i gysylltiad ag Epstein a'r cofnodion ynglŷn â'r penodiad pan ddaeth yn llysgennad yr UDA.

Mae'r mecanwaith yma yn orfodol ar weinidogion.

Fe ddywedodd arweinydd yr wrthblaid, Kemi Badenoch ei bod yn gobeithio y bydd rhaid i ASau Llafur "uno gyda ni i ymladd am y gwir". 

Daw ei sylwadau yn sgil dyfalu y gallai rhai gwleidyddion Llafur ar y meinciau cefn ymatal am eu bod yn flin am y sgandal.

Fe allai gymryd rhai wythnosau neu fisoedd i ryddhau'r dogfennau.

Mae Heddlu'r Met yn Llundain wedi gofyn wrth Lywodraeth y DU i beidio â'u cyhoeddi nhw am y tro fel nad yw'n amharu ar eu hymchwiliadau troseddol.

Llun: Carl Court/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.