Rhybudd melyn am law a chawodydd trwm i'r de a'r canolbarth
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i rannau o Gymru ddydd Iau.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am 05:00 fore Iau ac yn parhau mewn grym tan 21:00 ddydd Gwener.
Ardaloedd yn ne Cymru fydd yn cael eu heffeithio gan y tywydd garw yn bennaf, gyda pheryg y gallai’r glaw trwm achosi llifogydd mewn rhai llefydd.
Bydd cawodydd trwm trwy gydol y dydd yn golygu y gallai oedi ar y ffyrdd ac i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn debygol ddydd Iau.
Mae’n bosib y gallai rhai cartrefi a busnesau golli cyflenwadau trydan am gyfnod neu ddioddef llifogydd, rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd.
Mae disgwyl i 20-30mm o law gwympo yn y rhan fwyaf o lefydd o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 50mm o law mewn mannau eraill.
Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Merthyr Tudful
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Sir Y Fflint
- Torfaen
- Wrecsam