Trump yn dweud wrth Israel am 'roi'r gorau i fomio Gaza' wrth i Hamas gytuno i ryddhau gwystlon
Mae Donald Trump wedi dweud wrth Israel am "roi'r gorau i fomio Gaza" ar ôl i Hamas gytuno i ryddhau gwystlon Israelaidd.
Dywedodd Arlywydd America ei fod yn credu bod y grŵp terfysgol yn "barod am heddwch parhaol" yn dilyn bron i ddwy flynedd o ryfel yn Gaza.
"Mae'n rhaid i Israel roi'r gorau i fomio Gaza ar unwaith, fel y gallwn gael y gwystlon allan yn ddiogel ac yn gyflym," meddai Mr Trump.
"Ar hyn o bryd, mae'n llawer rhy beryglus i wneud hynny. Rydym eisoes mewn trafodaethau ar fanylion sydd angen eu datrys.
"Nid yw hyn yn ymwneud â Gaza yn unig, mae hyn yn ymwneud â heddwch hirdymor yn y Dwyrain Canol."
Daw sylwadau Mr Trump ar ei blatfform Truth Social ôl iddo roi 48 awr i Hamas dderbyn ei gytundeb heddwch.
Dywedodd Hamas eu bod yn cytuno i ryddhau'r holl wystlon o dan y fformiwla a gafodd ei gynnig yng nghytundeb heddwch Mr Trump.
"Yn y cyd-destun hwn, mae'r mudiad yn cadarnhau ei barodrwydd i ddechrau trafodaethau ar unwaith drwy'r cyfryngwyr i drafod manylion," meddai Hamas.
O'r 251 o bobl a gafodd eu cipio a'u cymryd yn wystlon ar 7 Hydref 2023, y gred yw bod 48 ohonynt yn dal i gael eu dal gan Hamas.
Y gred yw mai dim ond 20 o'r gwystlon sy'n fyw.
'Cam sylweddol ymlaen'
Yn dilyn hynny dywedodd Mr Trump mewn fideo ar Truth Social ei bod hi'n "ddiwrnod arbennig iawn", gyda diwedd y rhyfel yn "agos iawn".
Ond nid yw'r grŵp terfysgol wedi cytuno'n llwyr â'r cytundeb heddwch, gan ddweud eu bod am fod yn rhan o'r llywodraeth yn dilyn y rhyfel.
Dywedodd uwch lefarydd Hamas, Mousa Abu Marzouk, wrth Al Jazeera na fydd y grŵp yn diarfogi nes bod "meddiannaeth" Israel yn dod i ben.
Roedd diarfogi yn un o'r pwyntiau allweddol yng nghytundeb heddwch Mr Trump.
Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, y bydd y wlad yn gweithio gydag America ar y cynllun heddwch.
"Yn dilyn ymateb Hamas, mae Israel yn paratoi i weithredu cam cyntaf cynllun Trump ar unwaith ar gyfer rhyddhau'r holl wystlon ar unwaith," meddai.
"Byddwn yn parhau i weithio mewn cydweithrediad llawn â'r arlywydd a'i dîm i ddod â'r rhyfel i ben yn unol â'r egwyddorion a osodwyd gan Israel sy'n gyson â gweledigaeth yr Arlywydd Trump."
Dywedodd Syr Keir Starmer fod derbyniad rhannol Hamas o'r cynllun heddwch yn "gam sylweddol ymlaen" a galwodd am "gytundeb heb oedi".
Fe aeth Prif Weinidog y DU ymlaen i ddweud fod ymdrechion Mr Trump "wedi ein dwyn yn agosach at heddwch nag erioed o'r blaen".
"Mae cyfle nawr i ddod â'r ymladd i ben, i'r gwystlon ddychwelyd adref, ac i gymorth dyngarol gyrraedd y rhai sydd ei angen," meddai.
"Rydym yn galw ar bob ochr i weithredu'r cytundeb heb oedi."
Llun: Reuters