Pont y Borth i gau ar unwaith
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ddydd Sadwrn y bydd Pont y Borth yn cau ar unwaith i gynnal gwaith atgyweirio brys.
Fe gafodd terfyn pwysau newydd ei gyflwyno i'r hen bont sy'n cysylltu Ynys Môn a'r tir mawr ar ôl "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol ddydd Gwener, gan barhau ar agor i geir a cherbydau oedd â therfyn pwysau o dair tunnell.
Ond fe ddaeth cyhoeddiad newydd ddydd Sadwrn wedi archwiliad ddarganfod bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau'r bont, ac fe gafodd y bont ei chau am 14.00.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro am unrhyw broblemau gall y datblygiad yma ei achosi i bobl, gan ddweud y byddant yn gwneud eu gorau i ddatrys y broblem gyn gynted ag y bydd modd gwneud hynny.
Mae'r aelod lleol o Senedd Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi beirniadu'r penderfyniad, drwy ddweud "er mai diogelwch yw'r flaenoriaeth, mae'n annerbyniol fod trigolion yn gorfod wynebu cau'r bont unwaith eto".
Wrth ymateb i’r newydd dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Gary Pritchard: "Er ein bod yn deall y rhesymeg dros gyfyngu'r traffic dros Bont Menai, mae'n bryder i ni fel trigolion na chafodd y gwendid yma ei amlygu yn ystod yr archwiliadau blaenorol.
"Mae'r cyfyngiadau yn amlygu unwaith yn rhagor y pryder rydym ni fel gwleidyddion Ynys Môn wedi ei ddatgan dro ar ôl tro am ddiffyg gwytnwch ein cysylltiadau gyda'r tir mawr.
"Rydym wedi gwneud galwadau cyson ar Lywodraeth Cymru i ystyried y gwytnwch a'r effaith mae yn ei gael ar fywydau trigolion yr Ynys a byddaf yn galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru."