Arestio 175 o bobl wrth i brotestiadau o blaid Palesteina barhau er galwadau i'w canslo

Heddlu yn arestio pobl mewn protest o blaid Palesteina yn Llundain

Mae 175 o bobl wedi cael eu harestio yn Llundain wrth i brotestiadau o blaid Palesteina gael eu cynnal er gwaethaf galwadau i'w canslo yn dilyn ymosodiad terfysgol ar synagog ym Manceinion.

Mae'r protestiadau'n digwydd er bod Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, a phenaethiaid yr heddlu wedi gofyn i drefnwyr ganslo'r digwyddiad.

Dywedodd Heddlu'r Met bod chwech o bobl wedi eu harestio ar ôl i faner a oedd yn cefnogi Palestine Action gael ei rhoi ar Bont San Steffan yn Llundain ddydd Sadwrn.

Ers hynny, mae'r heddlu wedi arestio mwy o bobl yn Sgwâr Trafalgar yn y ddinas mewn rali sy'n cefnogi'r grŵp gwaharddedig.

Y mudiad Defend Our Juries sydd wedi trefnu'r digwyddiad yn Llundain, gyda digwyddiad tebyg hefyd yn cael ei gynnal ym Manceinion brynhawn Sadwrn.

Fe wnaeth pennaeth Scotland Yard, Syr Mark Rowley, ofyn i'r trefnwyr ohirio'r protestiadau wrth i swyddogion gael eu lleoli mewn synagogau.

Rhybuddiodd hefyd y bydd y protestiadau "yn debygol o greu tensiynau pellach a gallai rhai ddweud bod diffyg sensitifrwydd" yn sgil yr ymosodiad.

Image
Protest ar Bont Westminster
Fe wnaeth yr heddlu dynnu'r faner oddi ar y bont munudau ar ôl iddi gael ei rhoi yno

Mae dynodi Palestine Action fel grŵp terfysgol yn golygu bod hi'n drosedd i fod yn aelod neu eu cefnogi. Gallai olygu dedfryd o hyd at 14 mlynedd yn y carchar.

Cafodd y mudiad ei wahardd wedi iddynt hawlio cyfrifoldeb am achosi difrod gwerth £7 miliwn i awyrennau'r Awyrlu Brenhinol.

Mewn llythyr at Syr Rowley, dywedodd Defend Our Juries y byddai'r digwyddiad brynhawn Sadwrn yn parhau fel y cynlluniwyd. 

"Mae amddiffyn ein democratiaeth ac atal marwolaethau yn faterion hollbwysig," meddai'r llythyr. 

"Rydym yn eich annog felly i ddewis blaenoriaethu amddiffyn y gymuned, yn hytrach na arestio'r rhai sy'n dal arwyddion yn heddychlon mewn gwrthwynebiad i'r gwaharddiad hurt a llym ar grŵp gweithredu uniongyrchol domestig. 

"Gobeithiwn y gwnewch y dewis cywir i beidio ag arestio'r rhai sy'n cymryd rhan, a defnyddio adnoddau gwrthderfysgaeth yn gywir y penwythnos hwn."

Image
Protest o blaid Palestine Action
Cafodd chwech o bobl eu harestio ar Bont San Steffan

Daw ar ôl i Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, annog unrhyw un sy'n ystyried protestio i "gydnabod a pharchu galar Iddewon Prydain".

"Mae hwn yn foment o alaru. Nid yw'n amser i ennyn tensiwn ac achosi mwy o boen. Mae'n amser i sefyll gyda'n gilydd," meddai mewn neges ar X.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, y bydd y llywodraeth yn sicrhau bod unrhyw brotestiadau sy'n digwydd yn "cydymffurfio â'r gyfraith".

"Rwyf wedi sicrhau bod gan yr heddlu'r holl adnoddau sydd eu hangen arnynt i sicrhau eu bod yn gallu plismona'r protestiadau hyn," meddai.

"Bydd rhywun sy'n camu y tu hwnt i gyfraith ein gwlad yn cael ei arestio."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.