Rhoi mwy o bwerau i'r heddlu i reoli protestiadau

Protest o blaid Palesteina yn Llundain

Bydd yr heddlu’n cael mwy o bwerau i reoli protestiadau er mwyn iddynt ystyried effaith y rhai sy'n cael eu cynnal yn gyson. 

Daw'r mesurau’n dilyn protestiadau o blaid Palesteina, gan gynnwys digwyddiad yn Llundain ddydd Sadwrn lle cafodd bron i 500 o bobl eu harestio.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, fod protestiadau mawr sydd wedi eu cynnal dro ar ôl tro wedi achosi "ofn sylweddol" i Iddewon.

Bydd Llywodraeth y DU yn diwygio Adrannau 12 a 14 o Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 i ganiatáu i’r heddlu ystyried effaith gynyddol protestiadau cyson ar ardaloedd lleol, er mwyn gosod amodau ar brotestiadau cyhoeddus.

Bydd Ms Mahmood hefyd yn adolygu'r ddeddfwriaeth i sicrhau bod pwerau'n ddigonol ac yn cael eu defnyddio'n deg gan yr heddlu.

Bydd hyn yn cynnwys pwerau i wahardd protestiadau'n llwyr.

'Teimlo'n anniogel'

"Mae'r hawl i brotestio yn rhyddid sylfaenol yn ein gwlad," meddai'r Ysgrifennydd Cartref.

"Fodd bynnag, rhaid cydbwyso'r rhyddid hwn â rhyddid eu cymdogion i fyw eu bywydau heb ofn.

"Gall protestiadau mawr, cyson adael rhannau o'n gwlad, yn enwedig cymunedau crefyddol, yn teimlo'n anniogel, wedi eu dychryn ac yn ofn gadael eu cartrefi.

"Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg wrth ystyried yr ofn sylweddol yn y gymuned Iddewig, sydd wedi'i fynegi i mi ar sawl achlysur yn ddiweddar.

"Mae'r newidiadau yn nodi cam pwysig wrth sicrhau ein bod yn amddiffyn yr hawl i brotestio wrth sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddiogel yn y wlad hon."

Cafodd y brotest o blaid Palesteina ei gynnal yn Llundain ddydd Sadwrn er gwaethaf galwadau i'w ganslo yn dilyn ymosodiad terfysgol ar synagog ym Manceinion wythnos diwethaf.

Yn ystod y digwyddiad cafodd bron i 500 o bobl eu harestio, gyda 488 yn cael eu harestio am gefnogi'r grŵp gwaharddedig Palestine Action.

Ar hyn o bryd mae bar uchel yn cyfyngu ar allu'r heddlu i wahardd protest yn gyfan gwbl, gan fod yn rhaid cael risg o "anhrefn cyhoeddus difrifol".

Ond o dan y newidiadau sy'n cael eu cynnig, os yw protest wedi digwydd yn yr un safle am wythnosau yn olynol ac wedi achosi anhrefn dro ar ôl tro, bydd gan yr heddlu'r awdurdod i osod amodau fel gorchymyn i drefnwyr gynnal y digwyddiad yn rhywle arall.

Bydd unrhyw un sy'n torri'r amodau mewn perygl o gael eu harestio a'u erlyn.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.